Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Erfyn ar drigolion i gymryd pwyll wrth i’r eira gyrraedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae trigolion yn cael eu cynghori i gymryd pwyll ar ôl i eira gyrraedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’r cyngor wedi rhoi cynlluniau ar waith i ymdopi ag effaith unrhyw amhariad posibl.

Cynghorir pobl leol i ymweld â sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan y cyngor i gadw ar flaen y datblygiadau diweddaraf.

Mae penaethiaid wedi bod yn diweddaru tudalen we ysgolion ar gau bwrpasol y cyngor, yn ogystal â chysylltu â rhieni drwy’r dulliau cyfathrebu arferol, gan gynnwys negeseuon testun, e-bost ac apiau ysgol. Mae 27 ysgol wedi cau ar hyn o bryd yn yr ardal.

Mae’r holl gasgliadau gwastraff ac ailgylchu’n mynd rhagddynt yn ôl yr arfer ar hyn o bryd, ond gall hyn newid os bydd y tywydd a chyflwr y lonydd yn gwaethygu, neu os nad oes mynediad diogel at stryd ar gael.

Yn ogystal â hynny, pennwyd bod modd agor pob un o’r tair canolfan ailgylchu gymunedol yn ddiogel ar ôl arolwg y bore yma.

Bydd unrhyw wastraff nad yw’n cael ei gasglu heddiw yn cael ei gasglu ddydd Sadwrn 11 Mawrth er mwyn osgoi unrhyw amhariad pellach i ardaloedd eraill yr wythnos hon, a bydd unrhyw wastraff ailgylchu nad yw wedi'i gasglu yn cael ei gasglu ar y diwrnod casglu nesaf.

Os yw eich gwastraff ailgylchu fel arfer yn cael ei gasglu o finiau cymunedol, ni fydd yn cael ei gasglu heddiw, a byddwn yn ei gasglu ddydd Sadwrn 11 Mawrth.

Mae casgliadau gwastraff swmp a gwasanaethau danfon bagiau ac offer newydd wedi’u gohirio dros dro.

Mae gweithwyr wedi bod wrthi drwy gydol y nos, yn cadw’r rhwydwaith brif ffordd yn ddiogel, a byddant yn parhau i drin ffyrdd drwy gydol y dydd. Mae gweithwyr hefyd wedi bod yn graeanu ardaloedd cerdded prysur ac ail-lenwi biniau halen.

Mae ffordd Mynydd Bwlch yr A4061 / A4107 wedi cau i bob cyfeiriad, ac mae erydr eira’n cael eu defnyddio i glirio’r llwybr cyn ail-asesu’r sefyllfa yn ddiweddarach heddiw.

Mae staff y Cyngor wedi bod yn gweithio drwy gydol y nos i sicrhau bod y fwrdeistref sirol mor ddiogel â phosibl ar gyfer ein holl drigolion.

Diogelwch yw ein blaenoriaeth, ac mae unrhyw benderfyniad i gau wedi’i wneud gyda hyn mewn golwg. Rwy’n erfyn ar drigolion i gymryd pwyll, ac rwy’n eu cynghori i ymweld â thudalen we tywydd y gaeaf y cyngor, sy’n cynnig digon o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys atebion i gwestiynau cyffredin.

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau: "Mae staff y Cyngor wastad yn gwneud yn siŵr bod paratoadau yn eu lle mewn da bryd ar gyfer y posibilrwydd o eira.

“Pan fydd y tymheredd yn gostwng, mae’r cyngor yn rhag-drin y rhannau mwyaf prysur o’r rhwydwaith ffyrdd â halen craig gronynnog er mwyn atal rhew rhag ffurfio, a gall alw ar nifer o gerbydau a ddyluniwyd yn arbennig fel graeanwyr i gadw ffyrdd yn glir.”

Chwilio A i Y