Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Enwi dau gynllun Gofal Ychwanegol newydd

Mae dau ddatblygiad Gofal Ychwanegol sy’n cael eu hadeiladu ym Maesteg ac Ynysawdre wedi eu henwi gan y gymuned leol.

Bydd y cynlluniau newydd sy’n cael eu hadeiladu mewn partneriaeth rhwng Linc Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu cyfanswm o 45 o randai Gofal Ychwanegol i bobl hŷn.

Mae adnoddau Gofal Ychwanegol yn galluogi tenantiaid i fyw yn eu rhandai eu hunain sydd â’r holl gyfarpar y maen nhw ei angen i gadw’n ddiogel ac yn annibynnol, ac mae cefnogaeth ar gael iddynt bedair awr ar hugain ar y safle ar yr un pryd.

‘Tŷ Llwynderw’ fydd enw cynllun Maesteg sydd ar hen safle Ysgol Gyfun Isaf Maesteg. Bydd yn cynnwys 20 o randai Gofal Ychwanegol, 10 ystafell gofal preswyl ac amrywiaeth o gyfleusterau cymunol, gan gynnwys ystafell fwyta, lolfa, golchdy, salon, ystafelloedd gweithgareddau a gerddi cymunedol.

Awgrymwyd yr enw gan un o’r trigolion lleol Barry Waters, i dalu teyrnged i gyn ysgol y dre, ysgol uwchradd fodern Llwynderw y bu ef yn ddisgybl ynddi.

Dywedodd Barry a enillodd daleb Love2Shop gwerth £50 am ei syniad: “Rwyf wrth fy modd o fod wedi ennill hwn. Mwynheais fy nghyfnod yn Ysgol Llwynderw ac mae’n wych gweld yr enw yn parhau. Mae’n hyfryd bod y gymuned wedi cael bod yn rhan o benderfyniad mor bwysig ac y bydd yr enw yn aros. Edrychaf ymlaen at ddweud wrth fy ŵyr, ‘tad-cu enwodd hwnna’.”

Dywedodd Justine Scorrer, Rheolwr Adfywio Cymunedol Linc: “Bydd yr adeilad hwn yn rhan bwysig iawn o’r gymuned ac roedd yn briodol fod gan y gymuned lais yn y broses o’i enwi. Cawsom awgrymiadau gwych ac roedd yn benderfyniad anodd ond roeddem yn hoff iawn o’r enw a’r hanes y tu ôl iddo.”

Enw’r stryd y bydd ‘Tŷ Llwynderw’ yn cael ei adeiladu arni fydd ‘Cae’r Ysgol’, sef y Gymraeg am ‘School Field’.

Mae’r datblygiad ym Maesteg yn cael ei adeiladu gan Morganstone, a Jehu yw’r contractwyr sy’n gweithio ar y cynllun yn Ynysawdre a fydd yn cynnwys 25 o fflatiau Gofal Ychwanegol, 15 o ystafelloedd gofal preswyl ac amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol.

Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu ar hen safle Ysgol yr Archesgob McGrath ar dir wrth ochr Coleg Cymunedol Y Dderwen ac Ysgol Gynradd Brynmenyn newydd. Mae pedwar ar bymtheg o dai fforddiadwy i deuluoedd yn cael eu hadeiladu ar y safle hefyd.

Gwahoddwyd y cyhoedd i gymryd rhan trwy gyflwyno enwau lleol, cyfoes a Chymraeg ar gyfer datblygiad Ynysawdre.

Y cynnig buddugol i enwi’r ffordd oedd awgrym Jayne Taylor, ‘Lôn Derw’, sef y Gymraeg am ‘Oak Lane’. Meddyliodd am yr enw oherwydd y coed derw a oedd yn arfer tyfu o amgylch yr hen ysgol, a dywedodd: “Rwy’n credu bod yr enw yn un da oherwydd o fes bach y tyfa coed derw mawr, ac mae hynny’n cynrychioli’r hen ysgol.”

Y cyd-enillwyr i enwi’r cynllun Gofal Ychwanegol oedd Sally Hallett ac Anne Szopa, a gynigiodd yr enw ‘Tŷ Ynysawdre’. Dywedodd Sally: “Roeddem ni’n gwybod mai Fferm Ynysawdre oedd ar y safle hwn cyn i unrhyw adeiladau gael eu codi arno, felly gwnaethom ni benderfynu cadw’r enw hwnnw. Bydd yn braf gwybod y bydd yr enw’n parhau.”

Enillodd Jayne, Sally ac Anne dalebau am eu syniadau.

Mae cyfleusterau Gofal Ychwanegol wedi eu cynllunio i ddiwallu yn well anghenion sy’n newid wrth i bobl heneiddio a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu byw yn annibynnol a pharhau i fod yn egnïol cyhyd â phosibl.

Bydd y ddau ddatblygiad pwysig hyn yn fuddiol dros ben i bobl leol ac yn rhan o’n cynlluniau sy’n mynd rhagddynt i foderneiddio gwasanaethau gofal preswyl.

Dywedodd y Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Mae’r rhestrau aros ar gyfer y ddau gynllun Gofal Ychwanegol wedi’u hagor a hynny cyn i’r cyfleusterau agor eu drysau ar ddiwedd 2018 ac yn gynnar yn 2019. Cynghorir ymgeiswyr sy’n dymuno cael gwybod mwy am feini prawf cymhwysedd ac ychwanegu eu henwau i’r rhestrau aros i ffonio Linc Cymru ar 029 2047 4030 neu 029 2047 4754.

Chwilio A i Y