Enwebu ar gyfer Gwobrau ‘Ysbrydoliaeth Oes’
Poster information
Posted on: Dydd Llun 16 Rhagfyr 2019
Rydym yn chwilio am arwyr tawel cymunedau lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Gwobrau Ysbrydoliaeth Oes 2020 yn dathlu pobl, grwpiau a sefydliadau sydd wedi mynd yr ail filltir i wella iechyd a lles pobl leol.
Rydym yn croesawu enwebiadau ar gyfer unigolion, grwpiau, partneriaethau, prosiectau neu fusnesau sydd, yn eich barn chi, wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles eraill.
Mae pum categori yn y gwobrau, felly mae digon o gyfle i bobl a sefydliadau teilwng gael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu. Dyma’r categorïau:-
- Gwobr Gwneud Gwahaniaeth
- Gwobr Y Tu Hwnt i’r Galw
- Gwobr Mae’r Dyfodol yn Ddisglair
- Gwobr Un Person, Gwahaniaeth Mawr
- Gwobr Arloesi
Rydym yn ddiolchgar dros ben i’r bobl a’r sefydliadau sy’n gweithio’n anhunanol er lles eu cymunedau.
Rydym yn lwcus i gael cynifer o bobl ysbrydoledig sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol ar draws y fwrdeistref sirol, drwy annog pobl yn eu hardal i fod yn fwy gweithgar, neu drwy estyn allan i drigolion agored i niwed neu drwy ymdrechu i wneud eu cymunedau yn llefydd gwell i fyw ynddyn nhw.
Os ydych chi’n gwybod am unigolyn neu sefydliad sy’n haeddu cael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled, yn eich barn chi, ewch ati i’w henwebu. Mae’n gyfle perffaith i ddweud diolch o galon i unrhyw un sydd wedi cael effaith fawr ar eu cymunedau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol:
Os ydych chi am enwebu arwr lleol yn y Gwobrau Ysbrydoliaeth Oes, ewch
Dyddiad cau enwebiadau ar gyfer y gwobrau yw 5pm ddydd Mercher 15 Ionawr 2020. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: Karen.winch@bridgend.gov.uk.