Entrepreneuriaid ifanc ar ben eu digon ar ôl ennill cystadleuaeth
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 05 Gorffennaf 2019
Mae syniad busnes a oedd yn seiliedig ar sgwrs am wenyn wedi helpu tîm o entrepreneuriaid ifanc o Faesteg i ennill cystadleuaeth fenter genedlaethol!
Fe wnaeth y disgyblion hyn o Ysgol Gynradd y Garth, sy’n ifanc eu hoedran ond yn hen bennau ar fusnes, ennill y brif wobr yn y gystadleuaeth y Criw Mentrus sy’n cael ei chynnal yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru.
Bu'r disgyblion yn drech nag ysgolion eraill o bob cwr o Gymru ar ôl gwneud argraff ar y beirniaid gyda’u syniad busnes ‘Bee-Spoke T-shirts’ – crysau t ar thema gwenyn a oedd wedi’u dylunio gan y plant eu hunain i godi ymwybyddiaeth o gadwraeth gwenyn ac i godi arian i ddiogelu cwch gwenyn yr ysgol, ar ôl iddo gael ei fandaleiddio.
Mae’r Criw Mentrus yn gystadleuaeth flynyddol sy’n cael ei rhedeg gan Syniadau Mawr Cymru, rhan o Wasanaeth Entrepreneuriaeth i Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Mae’n herio timau o blant ysgol gynradd i redeg eu mentrau eu hunain, gan werthu nwyddau a gwasanaethau o’u dewis yn eu hysgolion a’u cymunedau lleol.
Nod y gystadleuaeth yw helpu disgyblion i ddefnyddio eu creadigrwydd a’u sgiliau menter mewn ffordd hynod ymarferol. Mae’n rhoi cyfle iddynt ddangos eu llwyddiannau ym maes busnes a sut maen nhw wedi datblygu eu diddordebau, eu cryfderau, eu sgiliau a’u dyheadau drwy eu profiad o fentergarwch. Mae’r gystadleuaeth yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac yn dangos sut mae ysgolion yn cyflwyno profiadau cysylltiedig â gwaith yn yr oedran ifanc hwn.
Roedd hwn yn brofiad gwerthfawr dros ben i’n disgyblion, sydd wedi dysgu a datblygu sgiliau newydd fel gwaith tîm, meddwl yn greadigol a chyllidebu. Mae'r ysgol yn falch iawn ohonyn nhw am eu gwaith caled drwy gydol cystadleuaeth y Criw Mentrus ac rydyn ni ar bigau’r drain i fynd yn ôl a rhoi’r newyddion da i bawb.”
Julie Thomas, pennaeth Ysgol Gynradd y Garth
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: "Mae’n bleser cael gweld ein disgyblion ieuengaf yn mwynhau’r cyflwyniad hwn i fusnes a menter. Eu dawn yw defnyddio eu syniadau entrepreneuraidd i ddod o hyd i atebion ymarferol. Maen nhw’n canolbwyntio ar eu diddordebau a phroblemau amgylcheddol a chymdeithasol i greu busnesau moesegol sy’n gwneud elw.”
Ychwanegodd: “Wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith a bywyd go iawn, mae hyn yn amlygu uchelgeisiau’r cwricwlwm newydd i ddatblygu cyfranwyr mentrus a chreadigol.
Wrth siarad am wobrau'r diwrnod, dywedodd Kevin Morgan, cyfarwyddwr rhanbarthol Bancio Busnes ac aelod o Fwrdd NatWest Cymru, sef noddwr y digwyddiad: “Roedd Ysgol Gynradd y Garth yn llawn haeddu ennill cystadleuaeth y Criw Mentrus eleni, gan ystyried pa mor uchel oedd y safon ledled Cymru. Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i blant ysgol gynradd ddatblygu sgiliau a fydd yn bwysig ym myd gwaith, gan gynnwys gwaith tîm, creadigrwydd, gweithio i derfynau amser a chyllidebu.”