Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Elusen yn cymryd yr awenau mewn siop ailddefnyddio yng nghanolfan ailgylchu cymunedol Maesteg

Mae’r elusen sy’n ymwneud â digartrefedd, Emmaus South Wales, yn cydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Kier i gymryd yr awenau mewn siop ailddefnyddio ‘The Siding’ yng nghanolfan ailgylchu gymunedol Maesteg.

Agorwyd The Siding yn Ystâd Ddiwydiannol Heol Tŷ Gwyn am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2020 dan reolaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Wastesavers cyn gorfod cau yn sgil y pandemig.

Mae Emmaus South Wales bellach yn rheoli’r gwaith, a bydd yn ailagor The Siding ddydd Llun 31 Ionawr 2022. Bydd yn fath o noddfa ar gyfer y rhai sy’n chwilio am fargeinion ac yn gyfle i drigolion lleol sicrhau bod yr eitemau nad ydynt eu heisiau yn cael cartref da, yn hytrach na mynd i sgip.

Erbyn heddiw, gall unigolion sy’n mynd i ganolfan ailgylchu Maesteg roi unrhyw eitemau sydd mewn cyflwr da, gwerthadwy, i The Siding, yn hytrach na chael gwared arnynt.

Bydd yr holl eitemau fydd yn cael eu rhoi yn cael eu hail-werthu yn y siop gan Emmaus am brisiau fforddiadwy, sy’n golygu y gallent fynd i gartref newydd yn hytrach na chyfrannu at wastraff tirlenwi.

Mae Emmaus yn hen law ar gasglu a gwerthu eitemau ail-law, ac mae ganddynt eisoes dair siop yn Nhref Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl.

Bydd yr holl elw a wneir o werthu eitemau ail-ddefnyddiadwy yn The Siding yn mynd at yr elusen, sy’n helpu i gefnogi pobl i beidio â bod yn ddigartref drwy gynnig cartref, gwaith gwerth chweil, hyfforddiant a ariennir a chymorth dyddiol.                                                 
Enwyd The Siding yn wreiddiol i gydnabod hanes glofaol cwm Llyfni - roedd y glo i gyd yn cael ei lwytho ar gilffordd ac yna ar wagen reilffordd yn barod i’w gludo i’r dociau. Bydd yr elusen yn cadw’r enw ‘The Siding by Emmaus South Wales’.

Rydym wrth ein bodd yn cael ailagor The Siding yng nghanolfan ailgylchu cymunedol Maesteg.

Ein nod yw rhoi gwaith gwerth chweil i’r unigolion rydym yn eu cefnogi a oedd yn ddigartref yn flaenorol, er mwyn iddynt allu magu hyder, dysgu sgiliau newydd a chyfoethogi eu CV.

Byddant yn helpu i redeg y siop ac rydym yn ceisio atal cymaint o eitemau â phosibl rhag mynd i’r safleoedd tirlenwi. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â thrigolion lleol a rhoi cartref newydd i’r trysorau hynny sy’n cyrraedd ein siop.

Marc Roberts, Pennaeth Manwerthu yn Emmaus South Wales

Dywedodd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Hoffem ddiolch i gymuned cwm Llynfi am y gefnogaeth a'r brwdfrydedd a ddangoswyd ganddynt tuag at The Siding.

“Hoffem hefyd ddiolch i'n partneriaid, Emmaus South Wales a Kier, am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad tuag at The Siding.

“Gellir rhoi eitemau cartref diangen sydd mewn cyflwr da i The Siding, a gwneir defnydd ohonynt ar yr un pryd â chodi arian ar gyfer mentrau cymdeithasol pwysig.

“Bydd y siop ailddefnyddio yn derbyn unrhyw beth sy’n addas i’w ailddefnyddio. Rwy’n sicr y bydd pobl eisiau galw yng nghyfleuster ailddefnyddio Maesteg dro ar ôl tro.”

Bydd The Siding gan Emmaus South Wales ar agor ddydd Llun, Mercher a Gwener o 10am tan 4pm, yn Ystâd Ddiwydiannol Heol Tŷ Gwyn, CF34 0BQ, Maesteg.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Emmaus South Wales.

Er mwyn deall beth ellir, a beth na ellir ei ailgylchu yng nghanolfan ailgylchu gymunedol Maesteg, ewch i wefan y cyngor.

Y Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau, ac Arweinydd y Cyngor Huw David yn ymweld â chanolfan ailgylchu 'The Sidings' ym Maesteg.

Chwilio A i Y