Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Eglurhad ar y cam diweddaraf i adfywio ardal y glannau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi eglurhad newydd am ei gynlluniau adfywio sy'n digwydd ym Mhorthcawl ar ôl derbyn nifer o gwestiynau ynghylch sut y bydd tir yn cael ei ddefnyddio yn ardal Bae Tywodlyd a Pharc Griffin.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr: "Ers cyhoeddi bod y cyngor eisiau addasu'r dynodiad o sut y bydd ardal bron i 20 hectar ym Mae Tywodlyd a Pharc Griffin yn cael ei defnyddio i hwyluso camau pellach o adfywio, rydym wedi derbyn llawer iawn o adborth.

"Er bod hyn yn wych ac rwy'n annog mwy o bobl i astudio a dweud eu barn ar y cynigion o fewn Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl a'r cynlluniau meddiannu, mae hefyd wedi golygu bod rhagdybiaethau a gwybodaeth anghywir wedi bod yn cael ei rannu, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol.

"Er enghraifft, mae pobl sy'n bryderus y bydd Parc Griffin yn mynd yn llai neu y bydd tai yn cael eu hadeiladu yno, neu y bydd Porthcawl yn colli eu cyrtiau tennis yn llwyr wedi cysylltu â ni, ond mewn gwirionedd y gwrthwyneb sy'n gywir - gyda'r cynigion newydd, bydd Parc Griffin yn dyblu o ran maint o bedair acer i wyth acer, ac ni fydd tai yn cael eu hadeiladu yno.

"Mae'r un peth yn wir ym Mhorthcawl, yn hytrach na symud cyrtiau tennis oddi yno, rydym eisiau darparu cyfleusterau tennis newydd sbon, gwell i'r gymuned drwy eu symud o'u safle presennol i fan arall lle gallant gael eu hadeiladu i'r safon gyfoes uchaf.

"Rydym wedi gweld ystadegau tai anghywir yn cael eu dyfynnu hefyd sy'n colli'r ffaith ein bod eisoes wedi lleihau'r nifer o gartrefi a fwriadwyd fel rhan o'r cynlluniau, yn enwedig wrth ymyl safle Llyn Halen ble mae tir ar gyfer tai wedi ei ostwng draean er mwyn gwneud lle i barc glan y môr newydd sbon.

"Cafodd hwn ei gyflwyno mewn ymateb uniongyrchol i adborth a gasglwyd drwy ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol, felly credaf ei fod yn bwysig i bobl sylweddoli sut mae eu barn yn dylanwadu'n weithredol ar yr hyn sy'n digwydd."

Dan gynlluniau'r cyngor ar gyfer ardal Bae Tywodlyd a Pharc Griffin, bydd rhan helaeth o'r safle yn cael ei dynodi ar gyfer datblygiadau aml ddefnydd yn cynnwys cynigion manwerthu, masnachol, adloniadol, tai a hamdden newydd sbon.

Yn ychwanegol, bydd llwybr cerbydau newydd yn cael ei adeiladu ynghyd â seilwaith newydd ac ysgol newydd neu gyfleusterau addysgol ehangach. Bydd Parc Griffin yn cael ei ehangu, lleoedd agored yn cael eu gwella ac oddeutu 900 o gartrefi yn cael eu cyflwyno rhwng safle'r ffair a Bae Tywodlyd ochr yn ochr â chyfleusterau ar gyfer busnesau newydd ac ymwelwyr.

Cafodd hysbysiadau am y cynigion eu gosod ar y safle ddydd Llun 6 Mehefin ynghyd â chyhoeddusrwydd eraill, a bydd pob sylw a dderbynnir yn cael ei adrodd i'r cabinet cyn y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.

Mae Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl ar gael ar-lein, ac am ragor o fanylion am gynlluniau meddiannu'r cyngor ewch i'r dudalen ymgynghoriadau ar www.bridgend.gov.uk.

Fel arall, gellir ymweld â Llyfrgell Porthcawl yn Church Place (CF36 3AG) rhwng 9.15am-6pm ar ddydd Llun, 9.15am-5pm ar ddydd Mawrth, 9.15am-1pm ar ddydd Mercher a 9.15am-5pm ar ddydd Iau, Gwener a Sadwrn.

Noder, mae’r llyfrgell ar gau dros awr ginio rhwng 1pm-2pm, ac mae wedi cau ar ddydd Sul.

Mae amrywiaeth barn yn sicr o godi wrth geisio cyflwyno newid ac adfywiad ar raddfa mor fawr, ond yn y pendraw mae pob un ohonom eisiau beth sydd orau i Borthcawl. Dyna pam ei bod hi'n bwysig i astudio'r cynigion yn uniongyrchol, ac ystyried pa fuddion posib all fod cyn dweud eich barn.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr

Chwilio A i Y