Dysgwch fwy am ddioglewch tomenni glo
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 03 Tachwedd 2021
Wrth i’r gwaith o ddiogelu hen domenni glo Cymru barhau, mae ystod o wybodaeth newydd wedi’i rhyddhau er mwyn diweddaru pobl.
Mae manylion llawn ynghylch y camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd drwy’i rhaglen diogelwch tomenni glo ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, a gallwch wylio fideo YouTube yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Mae llinell ffôn frys a chyfeiriad e-bost pwrpasol wedi’u sefydlu hefyd, a gall unrhyw un sydd eisiau adrodd pryderon ynghylch diogelwch tomenni glo wneud hynny drwy tips@coal.gov.uk neu drwy ffonio 0800 021 9230.
Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rhoddwyd sicrwydd i drigolion fod hen safleoedd diwydiannol yn cael eu harchwilio a’u monitro’n rheolaidd, a mân-broblemau yn unig sydd wedi’u canfod.
Mae'r cyngor yn parhau i gydweithio'n agos â'r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo fel rhan o'i asesiad o fwy na 2,000 o gyn-safleoedd cloddio yng Nghymru.
Ar bob safle, cynhaliwyd archwiliadau tir er mwyn gweld a oes angen unrhyw waith, a defnyddiwyd meini prawf 'statws risg' a gytunwyd yn genedlaethol i ystyried effaith debygol tirlithriad, cwymp neu golli cadernid strwythurol mewn ffordd arall.
O ganlyniad, mae'r safleoedd wedi cael eu dosbarthu i gategorïau, sef A, B, C neu D. Mae categori D yn cynnwys lleoliadau lle byddai unrhyw darfu yn cael yr effaith fwyaf - er enghraifft, oherwydd eu bod yn ymyl priffordd gyhoeddus.
Mae'r tasglu wedi cadarnhau bod rhai tomenni glo yng Nghymru yn parhau dan reolaeth yr Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cynghorau lleol, er bod y mwyafrif ohonynt bellach yn nwylo perchnogion preifat.
Mae 118 o hen domenni glo wedi’u nodi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a 31 ohonynt wedi’u graddio fel un ai C neu D.
Nid yw'r categorïau'n dynodi pa mor ddiogel neu ba mor beryglus yw safle. Yn hytrach, maen nhw'n adlewyrchu effaith bosibl unrhyw gwymp, llithriad neu chwalfa. Mae hyn yn golygu y byddai hen safle cloddio ger prif ffordd yn cael ei osod mewn categori uwch nag un wedi’i leoli mewn ardal wledig yn y fwrdeistref sirol, oherwydd y gall unrhyw chwalfa achosi amhariad posibl llawer gwaeth.
Er bod y system gategorïau newydd wedi bod ar waith ers y stormydd yn 2020, cyn hynny, roeddem yn defnyddio system fonitro leol a oedd yn ein galluogi i reoli tomenni ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. "O ganlyniad, mae gennym drefn sydd wedi hen sefydlu ar gyfer cynnal archwiliadau rheolaidd. Yn ffodus, dim ond mân-broblemau y mae'r system hon wedi'u canfod hyd yma - pethau fel gwneud yn siŵr fod llystyfiant yn cael ei dynnu o gyrsiau dŵr, ac nid oes problemau sylweddol sydd angen sylw pellach neu frys wedi dod i'r wyneb.
Gall preswylwyr fod yn sicr fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo i fonitro pob safle lleol, ac i sicrhau eu bod yn aros yn ddiogel. Rydym hefyd yn cefnogi'r alwad ar Lywodraeth y DU i gydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, a dyrannu'r cyllid sydd ei angen i sicrhau bod yr hen domenni glo ledled Cymru yn parhau'n ddiogel ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau