‘Dyma ein cyfle olaf ni’ yw’r rhybudd wrth i’r achosion o Covid-19 gynyddu
Poster information
Posted on: Dydd Llun 21 Medi 2020
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhybuddio bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu ei chyfle olaf i osgoi cyflwyno mesurau pellach i atal lledaeniad Covid-19.
Mae’r rhybudd yn dilyn cynnydd sydyn mewn achosion positif – i fyny o 17 y cant i 37.4 y cant mewn llai nag wythnos – heb unrhyw ffynonellau amlwg yn esbonio pam mae hyn wedi digwydd.
Mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau symud yn eu lle eisoes, fel Caerffili a Rhondda Cynon Taf, roedd modd olrhain mwyafrif yr achosion yn ôl i ddigwyddiadau penodol, ond nid yw hynny’n digwydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yma, mae’n ymddangos bod yr achosion yn digwydd oherwydd trosglwyddo cymunedol, yn hytrach na, dyweder, dathliad lle aeth pobl yn sâl ar ôl anwybyddu rheolau cadw pellter cymdeithasol neu drip dydd gyda rhywun â symptomau wedi ymweld â gwahanol leoliadau gyda chwsmeriaid yn profi’n bositif yn ddiweddarach. Mae’r cynnydd sydyn hwn mewn achosion positif yn bryder mawr. Mae’r data’n cael eu dadansoddi’n ofalus ar hyn o bryd a dylai pobl ddeall ei fod yn bosib iawn nawr y bydd angen gweithredu pellach ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn cadw pobl yn ddiogel ac i wyrdroi’r duedd o ran yr achosion sy’n cynyddu.
“Os ydyn ni am atal cymryd camau pellach, dyma’n cyfle olaf ni. Rhaid cadw’n llym iawn at reolau’r pandemig sy’n ceisio brwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19. Mae’r Coronafeirws yn glefyd sy’n effeithio arnom ni i gyd, nid dim ond henoed a phobl fregus, a rhaid i ni ddod at ein gilydd fel cymuned er mwyn brwydro yn ei erbyn. Rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cadw’n llym at y cyfarwyddyd cenedlaethol a sicrhau ein bod yn dal ati i olchi ein dwylo a defnyddio diheintydd yn rheolaidd, cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr, gorchuddio ein ceg mewn llefydd llawn iawn, ac osgoi ymgynnull mewn niferoedd mawr. Os byddwch chi’n datblygu tymheredd uchel, peswch newydd parhaus neu’n sylwi ar newid yn eich synnwyr arogl neu flas, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael prawf coronafeirws cyn gynted â phosib.
Bydd y cyngor yn parhau i weithio ochr yn ochr â phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, Heddlu De Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, ac os oes angen bydd yn cyflwyno mesurau pellach er mwyn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Rydyn ni’n monitro’r digwyddiadau’n fanwl iawn ac yn annog trigolion y fwrdeistref i gadw llygad am gyhoeddiadau pellach yn fuan.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
- Am y cyngor a’r gefnogaeth ddiweddaraf am bandemig y coronafeirws Covid-19, ewch i gov.uk/coronavirus