Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dylai busnesau osgoi gwneud 'nifer o geisiadau' wrth wneud cais am gymorth ariannol

Er mwyn osgoi oedi wrth wneud cais am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, mae busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i sicrhau eu bod ond yn gwneud cais am arian y maent yn gymwys i'w dderbyn.

Mae llawer o fusnesau wedi cyflwyno nifer o geisiadau i fwy nag un gronfa neu heb ddarparu'r holl fanylion sydd eu hangen i alluogi'r cyngor i brosesu'r hawliadau'n gyflym ac yn effeithlon.

Drwy gydol y pandemig, mae staff y cyngor wedi bod yn gweithio oriau hir, gan gynnwys yn ystod penwythnosau, i reoli hawliadau am filiynau o bunnoedd o gymorth ariannol, ac i sicrhau y gellir eu prosesu'n gywir, yn effeithlon ac mor gyflym â phosibl.

Gall busnesau helpu i gyflymu'r broses hon drwy sicrhau nad ydynt yn cyflwyno ceisiadau dyblyg, a'u bod yn darparu'r holl wybodaeth angenrheidiol sydd ei hangen ar gyfer gwneud hawliad. Ym mhob cam o'r cymorth ariannol a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yma, rydym wedi gweld llawer o achosion o fusnesau'n cyflwyno hawliad i sawl cronfa wahanol pan maent ond yn gymwys i gael un.

Mae datgelu'r rhain a sicrhau bod yr hawliad cywir yn cael ei brosesu er mwyn cadw pawb yn ddiogel a pheidio â thorri'r gyfraith yn cymryd llawer o amser, a gall greu ymdeimlad ffug o gael eich 'gadael ar ôl' pan fydd busnesau eraill yn dechrau adrodd bod eu cymorth ariannol wedi dod i law. Ar hyn o bryd, rydym yn aros am fanylion gan Lywodraeth Cymru ar sut y bydd y cylch diweddaraf o gymorth ariannol yn cael ei weinyddu, felly rwy'n gofyn i fusnesau ymlaen llaw i'n cefnogi i sicrhau y gallwn brosesu eu hawliadau'n gyflym, yn ddiogel ac yn effeithlon.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Hywel Williams

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth newydd i fusnesau sydd wedi'i rannu'n ddwy gronfa - Cronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau, gwerth £160m, a chynllun grant Cronfa Cadernid Economaidd sy'n benodol i'r sector, gwerth £180m.

Fel rhan o'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau, a ddarperir gan awdurdodau lleol, bydd busnesau sydd wedi profi effaith sylweddol o ganlyniad i'r cyfyngiadau ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn cael taliad o £3,000.

Bydd busnesau twristiaeth, hamdden a lletygarwch a'u cadwyni cyflenwi sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £150,000 yn derbyn taliad o £5,000.

Bydd grantiau dewisol o hyd at £2,000 yn parhau i fod ar gael i'r rhai nad ydynt ar y rhestr ardrethu annomestig, a hefyd i'r rheiny nad ydynt ar y gronfa ddata ardrethi ac yn is na'r trothwy TAW.

Rhoddir rhagor o fanylion am y broses ymgeisio am grant a dyddiadau lansio'r gronfa ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y byddant ar gael.

Bydd cynllun grant y Gronfa Cadernid Economaidd sy'n benodol i'r sector yn cael ei ddarparu drwy Busnes Cymru ac yn targedu busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden. Bydd hyn yn darparu grantiau amrywiol o hyd at uchafswm o £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig, a £150,000 i fusnesau mwy.

Bydd rhagor o wybodaeth am y cyllid hwn a sut y gellir cael gafael arno yn cael ei gyhoeddi'n fuan ar wefan Busnes Cymru.

Chwilio A i Y