Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dyfarnu mwy na £70 mil i gynlluniau cymunedol

Cytunodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i roi dros £70,000 tuag at gostau gweddnewid man gwyrdd yng Nghorneli, creu parc sglefrio ym Mhencoed, adnewyddu llochesi bysiau ym Metws a gwella maes parcio ym Mryncethin.

Drwy’r ‘Gronfa Tref a Chyngor Cymunedol’, mae aelodau cabinet yr awdurdod lleol wedi cymeradwyo cefnogaeth i bedwar prosiect a gyflwynwyd gan gynghorau tref a chymuned er budd eu cymunedau lleol.

Cyflwynwyd cynnig cyffrous gan Gyngor Cymuned Corneli a fydd yn adfywio’r ardal o amgylch Canolfan Gymunedol Corneli ar Heol Las.

Y syniad yw tirlunio’r safle a gosod gatiau gyda nodweddion arbennig yn arwain i lwybrau troed digon llydan i gadeiriau olwyn a choetsis babanod. Plennir nifer o goed a bydd gerddi newydd gyda seddi ac ardaloedd picnic yn cael eu cynllunio i ddenu pobl o bob oed i ddefnyddio’r parc.

Bydd Parc Bach Heol Las sydd o flaen y ganolfan hefyd yn cael ei ehangu a gosodir cyfarpar chwarae heriol ar gyfer y plant hŷn yn ogystal â chyfarpar hollgynhwysol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyfrannu £40,000 tuag at gyfanswm cost y cynllun o £150,000. Mae Cyngor Cymuned Corneli yn cyfrannu £40,000 o’i gronfa ei hun ac mae wedi gwneud cais am grant o £70,000 o raglen ‘Pawb a'i Le’ y Gronfa Loteri Fawr i dalu gweddill y gost.

Rydym wrth ein boddau yn cefnogi’r cynllun hwn. Y llynedd daeth Cyngor Cymuned Corneli yn gyfrifol am redeg y ganolfan gymunedol drwy drosglwyddo asedau cymunedol ar ôl iddo ddangos ei ymrwymiad i sicrhau bod y ganolfan yn parhau i ffynnu fel hyb cymunedol.

Mae’n wych gweld bod ganddyn nhw gynlluniau mor gynhwysfawr i wella’r safle. Mae grwpiau lleol yn cynnwys Clwb Cinio Corneli, grwpiau dawns a grŵp rhedeg lleol yn gwneud defnydd da o’r ganolfan ac fe fydden nhw i gyd yn elwa o gael man defnyddiol y tu allan i’r ganolfan gymunedol.

Bydd cynllun y cyngor cymuned hefyd yn gwneud y parc yn fan chwarae canolog i blant o bob oed a gallu yng Nghorneli drwyddo draw.

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae aelodau cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno hefyd y bydd Cyngor Tref Pencoed yn cael £20,000 tuag at y gost o £59,000 i greu parc sglefrfyrddio ar hen safle cwrt tennis ar gaeau chwarae Felindre Road.

Bydd nifer o lochesi bysiau ym Metws yn cael eu tacluso diolch i gyfraniad o £3,795.09 o ‘Gronfa Tref a Chymuned’ Cyngor Cymuned Cwm Garw. Bydd pum lloches yn cael eu hadnewyddu’n llwyr a seddau newydd yn cael eu rhoi mewn saith lloches.

Syniad y cynghorydd lleol Martyn Jones oedd adnewyddu’r llochesi bysiau. Bydd y cyngor cymuned yn cyfrannu £2,000 tuag at y cyfanswm o £10,795.09, a daw y £5,000 arall o Gronfa Gweithredu Gymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Cyngor Cymuned Llansanffraid-ar-Ogwr hefyd wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am grant ‘Cronfa Tref a Chyngor Cymuned’. Bydd yn cael £6,550 tuag at y gost o £13,100 i darmacio Maes Parcio Neuadd Goffa Bryncethin.

Yn unol ag amodau’r cynllun grant, mae’n rhaid i bob cyngor tref a chyngor cymuned sy’n ymwneud â’r prosiect gyfrannu o leiaf hanner cant y cant o gostau’r prosiect.

Chwilio A i Y