Dyddiad cau ffurflenni cais pleidleisio drwy'r post yn agosáu
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 14 Ebrill 2021
Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru a hoffech bleidleisio drwy'r post ar 6 Mai 2021 yn etholiad y Senedd a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, neu is-etholiad yr awdurdod lleol yn Nantymoel, rhaid i chi gyflwyno ffurflen gais pleidlais drwy'r post i'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol cyn 5pm dydd Mawrth 20 Ebrill.
Mae angen anfon ffurflenni cais pleidleisio drwy'r post at y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Gwasanaethau Etholiadol, Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, CF31 4WB.
Yna, caiff eich papur pleidlais ei anfon atoch drwy'r post. Sicrhewch eich bod yn dychwelyd eich pleidlais drwy'r post fel ei bod yn cyrraedd cyn i'r etholiad gau, neu ni chaiff ei chyfrif. Mae amlen Radbost wedi'i chynnwys yn eich pecyn pleidlais drwy'r post. Os yw'n rhy hwyr i anfon eich pleidlais yn ôl drwy'r post, gallwch ei chyflwyno ar ddiwrnod pleidleisio yn swyddfa etholiadol eich cyngor, neu ei chyflwyno yng ngorsafoedd pleidleisio penodol.
Mae pleidleisio drwy'r post yn ffordd rwydd a hwylus o bleidleisio os na hoffech bleidleisio wyneb yn wyneb mewn gorsaf bleidleisio. Serch hynny, rhaid i chi fod wedi cofrestru ac yn gymwys i bleidleisio.
Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio eisoes, rhaid i chi gofrestru cyn gwneud cais am bleidlais drwy'r post. Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw 11.59pm 19 Ebrill, 12 diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn gov.uk/register-to-vote
Mae cofrestru i bleidleisio yn broses gyflym a rhwydd, sydd fel arfer yn cymryd oddeutu pum munud. Mae'n sicrhau y gallwch ddefnyddio'ch llais ar ddiwrnod pleidleisio, i benderfynu pwy hoffech chi wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eich rhan chi o Gymru.
Os ydych yn ansicr a ydych wedi cofrestru ai peidio, cysylltwch â'r Swyddfa Etholiadol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy anfon e-bost at electoral@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643116.
Os ydych wedi cofrestru ar-lein, gwiriwch fewnflwch eich e-bost a'r ffolder sothach rhag ofn ein bod wedi gofyn am ragor o dystiolaeth gennych.
Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, cewch gerdyn pleidleisio cyn yr etholiad sy'n nodi ymhle mae eich gorsaf bleidleisio. Nid oes angen i chi ail-gofrestru ar gyfer pob etholiad, oni bai bod eich cyfeiriad wedi newid. Cewch fynd i orsaf bleidleisio rhwng 7am a 10pm.
Bellach, gall pobl ifanc 14 a 15 oed gofrestru i bleidleisio a gall pobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru.
Gall pobl ifanc ganfod popeth sydd ei angen arnynt ynghylch cofrestru a phleidleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol. (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd)