Dyddiad cau ar gyfer grantiau cymorth busnes
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 29 Mai 2020
Un mis sydd ar ôl gan fusnesau ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud cais am gymorth cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.
Gyda'i nod o helpu masnachwyr i wynebu heriau'r cyfyngiadau symud yn ystod pandemig y coronafeirws Covid-19, y terfyn amser ar gyfer derbyn ceisiadau newydd yw 5pm ar 30 Mehefin 2020 – ni chaiff unrhyw gais a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn ei ystyried.
Ers lansio'r pecyn achub ariannol o £1.4 biliwn, mae'r cyngor wedi prosesu 2,204 o geisiadau gan gwmnïau lleol ac mae wedi dyrannu mwy na £27 miliwn.
Mae'r cymorth ar gael i fusnesau sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru ac sydd wedi'u lleoli mewn adeiladau sydd â gwerth ardrethol o ddim mwy na £12,000. Mae'n cynnwys y rheiny sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach gan eu bod yn dod o dan y trothwy o £6,000 ac nad ydynt yn talu ardrethi busnes ar hyn o bryd. Mae grantiau hefyd ar gael i fusnesau sydd yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.
Gellir gwneud ceisiadau trwy gwblhau ffurflen ar-lein. Er mwyn osgoi oedi wrth brosesu ceisiadau, mae'n hanfodol fod pob ymgeisydd yn darparu gwybodaeth gywir a hanfodol gan gynnwys copïau o gyfriflenni banc sy'n dangos manylion banc.
Mae'r cyllid hwn wedi darparu achubiaeth hanfodol ar gyfer busnesau cymwys ledled y fwrdeistref sirol ac mae wedi'u helpu i wynebu heriau pandemig y coronafeirws.
Gyda phedair wythnos i fynd yn unig cyn y dyddiad cau, rwy'n gobeithio y bydd unrhyw fusnes sydd heb wneud cais eisoes yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli'r cyfle.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David