Dŵr Cymru yn cwblhau ei fuddsoddiad o £70,000 i adnewyddu'r garthffos ym Mhontycymer
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 15 Chwefror 2019
Mae Dŵr Cymru wedi cwblhau’n llwyddiannus ei fuddsoddiad o £70,000 i adnewyddu a gosod pibellau carthffos newydd ar hyd Ffordd Pen-y-bont ar Ogwr, Pontycymer, gan greu manteision hirdymor i'r ardal amgylchynol.
Bydd y gwaith gan y cwmni dŵr dielw, a ddechreuodd ddiwedd fis Hydref 2018, yn gwella perfformiad y rhwydwaith dŵr gwastraff, gan leihau'r perygl o lifogydd a pharhau i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid y gallant ddibynnu arno am ddegawdau i ddod.
Roedd hwn yn brosiect peirianyddol heriol a oedd angen ei gynllunio'n fanwl. Cwblhawyd y prosiect o fewn amser da, er gwaethaf y gwasanaethau dan ddaear anodd yn yr ardal.
Ceisiom ein gorau i fod mor effeithlon a chynhyrchiol â phosibl yn yr amodau hyn, gan weithio'n agos â Phriffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau'r tarfiad lleiaf i'r ardal amgylchynol.
Hoffem ddiolch i'r trigolion lleol a Chanolfan Bywyd Cwm Garw, yr Halo, am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i ni fynd i'r afael â'r gweithiau pwysig hyn.
Russell Jones, Rheolwr Prosiect Cyflenwi Dŵr Cymru
Gan dynnu sylw at gwblhad y cynllun, dywedodd y cynghorydd lleol Rod Shaw: “Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffordd ganmoladwy yr ymdriniwyd rheolaeth yr atgyweiriad hwn. "