Dweud eich dweud ar lwybrau cerdded a beicio ar gyfer y dyfodol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 23 Rhagfyr 2020
Gofynnir i breswylwyr am eu barn i helpu i wella llwybrau cerdded a beicio ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r cyngor yn awyddus i ddarganfod lle mae angen llwybrau newydd, yn ogystal â nodi'r rhai presennol sydd angen eu huwchraddio.
Bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus, a fydd yn para tan ddiwedd Ionawr 2021, yn cael eu defnyddio yn y broses barhaus o ddylunio a llunio llwybrau teithio actif.
Cyhoeddir cynlluniau ar gyfer llwybrau’r dyfodol ar fap rhwydwaith teithio actif newydd, a fydd yn cael ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.
Mae teithio actif yn golygu cerdded neu feicio ar deithiau bob dydd, pellter byr. Mae'n cynnwys teithiau i'r ysgol, siopau, gwaith, gwasanaethau a hybiau cludiant. Hefyd, gall gynnwys defnyddio cadeiriau olwyn trydan neu sgwteri symudedd.
Mae'r llwybrau, fel a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, yn canolbwyntio’n bennaf ar aneddiadau â phoblogaeth o fwy na 2,000. Ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, bydd y mapiau’n cynnwys Betws, Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Bro Ogwr, Pencoed, Pontycymer, Porthcawl a’r Pîl.
Nod y rhwydwaith teithio actif yw caniatáu i gerdded a beicio fod y ffordd fwyaf naturiol ac arferol o fynd o gwmpas ar gyfer teithiau lleol.
Trwy wneud hynny, mae’n hybu iechyd a llesiant ac yn helpu i wneud ein trefi a’n pentrefi yn llefydd haws i fyw ynddynt.
Dewch i fod yn rhan o’r ymgynghoriad a helpwch i lunio’r llwybrau hyn ar gyfer y dyfodol. Rydym eisiau cael eich barn ar y seilwaith presennol a darganfod ble rydych yn cael trafferthion wrth gerdded neu feicio a beth yr hoffech ei weld yn y dyfodol.
Aelod Cabinet dros Gymunedau, Richard Young
Ar ôl yr ymgynghoriad cychwynnol, bydd map rhwydwaith drafft yn cael ei lunio, gyda thrigolion yn cael gwahoddiad i rannu eu hargraffiadau ynghylch y cynlluniau cyn cynnal ymgynghoriad statudol terfynol i’r map rhwydwaith teithio actif arfaethedig yn 2021. Ar ôl hyn, bydd y map rhwydwaith yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.
Ewch i'r porth mapio ar-lein i ddweud eich dweud neu am ragor o wybodaeth am lwybrau teithio actif, ewch i wefan y cyngor.
Ym mis Gorffennaf, derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr grant o £3m gan Lywodraeth Cymru i wella ffyrdd beicio a llwybrau troed, gan gynnwys bron i £2.6m ar gyfer pecyn gwaith ar hyd y llwybr teithio llesol arfaethedig rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Pencoed.
Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar y llwybr teithio actif a fydd yn cysylltu Pencoed â Choleg Pencoed ar ddydd Llun, 4 Ionawr. Bydd hyn yn cysylltu â'r rhwydwaith teithio llesol presennol sy'n mynd drwy Bencoed ar Ffordd Felindre a Heol Llangrallo, drwy Llangrallo, ar draws Cylchfan Llangrallo ac i Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr.
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.