Dweud eich dweud ar gynlluniau ar gyfer teithio gan ddysgwyr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2019
Mae trigolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar newidiadau posib i’r ddarpariaeth cludiant i'r ysgol.
Gan ei fod yn wynebu gorfod gwneud toriadau gwerth £35m dros y pedair blynedd nesaf, mae’r cyngor yn adolygu pob gwasanaeth nad yw’n wasanaeth hanfodol i weld lle mae modd gwneud arbedion, ac mae wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus a ddaw i ben ar 5 Ionawr 2020.
Mae'r ymgynghoriad yn gwahodd safbwyntiau ar newidiadau posib i drefniadau teithio disgyblion a myfyrwyr ysgol sy’n mynd i golegau addysg bellach.
Mae’n cynnwys cynigion fel rhoi’r gorau i ddarparu cludiant i ddysgwyr os oes llwybr iddynt gerdded i’r ysgol (o dan ddwy filltir i ddisgyblion oedran cynradd ac o dan dair milltir i ddisgyblion oedran uwchradd) a rhoi’r gorau i’r trefniant i hebryngwyr deithio gyda dysgwyr os oes llai nag wyth yn teithio yn y tacsi neu’r bws mini.
Bydd hebryngwyr yn dal i deithio mewn cerbydau os yw’r cyngor yn ystyried bod hynny er lles y disgyblion, yn arbennig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn i bobl am eu safbwyntiau ar gynigion fel rhoi’r gorau i ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr 16 oed neu hŷn sy’n mynd i’r ysgol neu’r coleg, a rhoi’r gorau i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion ysgolion meithrin (tair a phedair oed) gan nad oes cyfraith sy’n dweud bod yn rhaid i’r cyngor ddarparu cludiant am ddim i’r dysgwyr hyn.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw un o’r ychydig awdurdodau yng Nghymru sy’n cynnig darpariaeth mor hael ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n deall y gall y cynigion hyn effeithio ar ddysgwyr a’u teuluoedd.
Er y byddai’n well gennym gynnal gwasanaeth teithio hael i ddysgwyr, nid ydym mewn sefyllfa i wneud hynny bellach ar ôl dioddef toriadau heb eu tebyg o’r blaen i’n cyllideb. Cyn i ni wneud penderfyniad terfynol, rydyn ni’n gobeithio deall yn llwyr beth yw effaith y cynigion hyn, felly rwy’n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosib yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, yn ystyried y gwahanol opsiynau sydd wedi’u nodi, ac yn dweud wrthym beth maen nhw’n ei feddwl.
Rydyn ni’n dymuno parhau i geisio gwarchod aelodau mwyaf agored i niwed y gymuned, a thargedu ein hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf, ond bydd angen eich help chi arnom i allu gwneud hyn yn effeithiol.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen ymgynghori yn www.bridgend.gov.uk/ymgynghoriadau, ffoniwch (01656) 643664 neu anfonwch e-bost at consultation@bridgend.gov.uk