Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dweud eich dweud ar ddyfodol y gwasanaethu bysiau lleol

Ar ôl rhybuddio na all y cymorthdaliadau i rai gwasanaethau bysiau lleol barhau oherwydd y toriadau i gyllid cyhoeddus, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwahodd trigolion lleol i rannu eu barn ar sut y gellid darparu gwasanaethau bysiau yn y dyfodol.

Yn ystod 2017/18 gwariodd y cyngor fwy na £614,000 yn cefnogi gwasanaethau bws na fyddent fel arall yn hyfyw yn fasnachol.

Yn anffodus, wrth i’r cyngor barhau i geisio ymdopi â gostyngiadau gwerth miliynau o bunnoedd yn y cyllid y mae’n ei dderbyn, disgwylir i’r gyllideb ar gyfer cymorthdaliadau i wasanaethau bysiau ostwng i £426,000 yn 2018/19.

O ganlyniad i hyn, mae’r cyngor yn cynnig y dylid tynnu’r cyllid oddi ar naw gwasanaeth bws:

• Rhif 51 – Pen-y-bont ar Ogwr i Oaklands Road (Easyway)

• Rhif 803 – Dan-y-graig i Borthcawl (Easyway)

• Rhif 61 - Drenewydd yn Notais i Borthcawl (Peyton Travel)

• Rhif 81 - Pen-y-bont ar Ogwr i Ben-y-fai drwy Fracla a Choety (Easyway)

• Rhif 68/69 – Pen-y-bont ar Ogwr i Gefn Glas (First Cymru)

• Rhif 52 – Pen-y-bont ar Ogwr i Broadlands (Easyway)

• Rhif 63B – Pen-y-bont ar Ogwr i Borthcawl (First Cymru)

• Rhif 62 – Pen-y-bont ar Ogwr i Bencoed (First Cymru)

• Rhif 73 – Y Pîl i Ffordd y Gyfraith (Easyway)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorthdaliadau i rai llwybrau bysiau rhanbarthol a lleol fel y gall trigolion sy’n byw ar hyd y llwybrau hyn gyrraedd mannau cyflogaeth, addysg, gofal iechyd a gweithgareddau cymdeithasol yn gyfleus.

Yn anffodus, bydd gennym ni lai o arian i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus y flwyddyn nesaf, gan fod y lefel bresennol o gymorthdaliadau yn anghynaladwy.

Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau’r Cyngor

Ychwanegodd y Cyngorhydd Young: "Yn amlwg, nid hon yw’r sefyllfa yr ydym yn dymuno bod ynddi, ond y gwir truenus yw nad oes modd cynnal y lefel flaenorol o gyllid.

"Rydym ni felly eisiau edrych ar ganlyniadau tynnu’r cymorthdaliadau oddi ar lwybrau penodol, a hoffem ni gael barn y cyhoedd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

"Yn ogystal â chael barn y trigolion i weld a ydyn nhw’n gwerthfawrogi'r gwasanaethau bysiau hynny neu beidio, hoffem ni hefyd glywed eu barn am y dulliau eraill o deithio a allai fod ar gael iddyn nhw, fel y cynllun trafnidiaeth gymunedol.

"Cafodd yr holl gynlluniau hyn eu darparu i wasanaethu llwybrau sy’n cael eu defnyddio gan ychydig iawn o deithwyr, ac efallai mai’r cynlluniau hynny fyddai’r dewis mwyaf priodol i’r dyfodol.

"Gallwch lenwi ymgynghoriad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ‘Gwasanaethau Bysiau â Chymorth’ ar-lein cyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 26 Mawrth. Mae copïau papur a ffurfiau amgen hefyd ar gael drwy ffonio 01656 643664."

Chwilio A i Y