Dweud eich dweud ar ddarpariaeth cerdded a beicio
Poster information
Posted on: Dydd Iau 02 Medi 2021
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i lansio ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol drafft, a fydd yn pennu dyfodol llwybrau cerdded a beicio ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r ymgynghoriad, a ddechreuodd ar ddydd Mercher 1 Medi, yn caniatáu trigolion i ddweud eu dweud ar lwybrau’r dyfodol, llwybrau presennol a chyfleusterau cysylltiedig yn eu hardal.
Mae’n dilyn ymgynghoriad a gafodd ei lansio’n gynharach eleni a oedd yn gofyn am farn y cyhoedd ar sut y gellid gwella’r ddarpariaeth beicio a cherdded yn y fwrdeistref sirol.
Cymerodd dros 1,000 o bobl ran yn yr ymgynghoriad, ac aeth y cyngor, ynghyd â Llywodraeth Cymru a Sustrans, ati i ystyried yr holl sylwadau’n fanwl ac maent wedi cynhyrchu Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft. O ganlyniad, cafodd 176km o lwybrau ychwanegol eu nodi ar y map yr ymgynghorwyd arno.
Roedd yr ymgynghoriad cynharach ar deithio llesol yn hynod lwyddiannus wrth bennu'r hyn y gellid ei wella ar gyfer y Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft.
Rydym yn gobeithio y bydd trigolion sy’n byw ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i rannu eu barn ar y ddarpariaeth cerdded a beicio yn yr ardal fel y gall y cyngor barhau eu hymdrechion i ddatblygu rhwydwaith teithio llesol ehangach a chynnig opsiwn amgen deniadol i yrru i bobl, a’r cyfle i gadw’n heini ac yn iach.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau
Mae teithio llesol yn golygu cerdded neu feicio ar deithiau bob dydd pellter byr. Mae'n cynnwys teithiau i'r ysgol, siopau, gwaith, gwasanaethau a hybiau cludiant. Gall gynnwys defnyddio cadeiriau olwyn trydan neu sgwteri symudedd ond nid yw'n cynnwys teithiau a wneir ar gyfer hamdden yn unig, na rhesymau cymdeithasol. Ni chaniateir sgwteri trydan ar lwybrau teithio llesol.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros 12 wythnos, a gellir dod o hyd iddo drwy ddilyn y ddolen hon.