Dweud eich dweud ar addysg ôl -16
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 11 Rhagfyr 2018
Mae ymgynghoriad mawr ar droed ar ddyfodol addysg ôl-16 ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrthi'n adolygu a ddylid addasu'r ddarpariaeth bresennol er mwyn sicrhau bod dysgwyr ifanc yn cael y cyfleoedd gorau posibl i ragori, ac mae'n gwahodd y cyhoedd i ddweud eu dweud.
Mae gan bob ysgol uwchradd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr chweched dosbarth ar hyn o bryd, sy'n amrywio mewn maint o 76 o ddisgyblion i 377 o ddisgyblion.
Mae oddeutu 40 o ddisgyblion hefyd yn mynychu'r ddarpariaeth chweched dosbarth sydd yn nwy ysgol arbennig y fwrdeistref sirol, ac mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu amrediad o lwybrau galwedigaethol ar gyfer oddeutu 2,000 o ddysgwyr rhwng 16 ac 18 mlwydd oed.
Yn yr ymgynghoriad cyhoeddus newydd, sydd ar agor tan 1 Mawrth 2019, bydd gofyn i rieni, disgyblion, athrawon a phartïon eraill â diddordeb ddweud a fyddai'n well ganddynt gadw a gwella'r system chweched dosbarth bresennol, neu ddewis system arall.
Mae’r opsiynau'n cynnwys: cau pob chweched dosbarth a datblygu canolfan chweched dosbarth fodern yn ei le, a fyddai naill ai'n cael ei rheoli gan yr awdurdod lleol neu gan goleg addysg bellach; cael cymysgedd o ddosbarthiadau chwech gyda rhai dosbarthiadau'n uno, er mwyn creu canolfan chweched dosbarth newydd a fyddai naill ai'n cael ei rhedeg gan yr awdurdod lleol neu gan goleg addysg bellach; neu gael model trydyddol llawn a reolir gan y sector addysg bellach.
Mae trefniadau ar wahân yn cael eu cynnig ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysg ffydd. Awgrymir y dylai'r cydweithio rhwng Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Llanhari yn Rhondda Cynon Taf barhau i ddatblygu, gydag Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath yn parhau i ddatblygu cysylltiadau agos â dosbarthiadau chwech eraill a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae adolygiad llawn o ddarpariaeth ôl-16 i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd yn cael ei gynnal.
Mae wedi dod yn amlwg nad yw un dull yn addas i bawb o gwbl, felly rhaid i ni fod yn hyblyg a gwneud popeth o fewn ein gallu i greu'r system orau posibl sy'n datblygu gweithlu medrus sydd wedi ei addysgu'n dda. Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r ddarpariaeth chweched dosbarth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel un dyraniad grant ôl-16 bob blwyddyn. Yn anffodus, oherwydd cynni cenedlaethol, mae'r gronfa hon yn lleihau'n raddol. Gan ystyried y pwysau ariannol y mae'r awdurdod lleol, ysgolion uwchradd a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wynebu, mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio ein hadnoddau prin mewn dull mor feiddgar, effeithlon a chreadigol â phosibl.
Yn sicr, mae llawer o bethau cadarnhaol am fodel presennol y chweched dosbarth. Er enghraifft, mae'r cyswllt rhwng myfyrwyr chweched dosbarth a gweddill yr ysgol yn darparu modelau rôl sy'n cefnogi dysgwyr iau. Ond mae rhai pethau negyddol hefyd, gan gynnwys y ffaith na all myfyrwyr bob amser ddewis y pynciau y maen nhw am eu hastudio, ac ychydig iawn o ddisgyblion sy'n astudio pynciau penodol mewn rhai ysgolion. Yn anffodus, nid yw cyflwyno pynciau mewn grwpiau bach iawn bob amser yn ffafriol i safonau uchel ac amgylchedd dynamig.
Rhaid hefyd pwyso a mesur manteision ac anfanteision defnyddio dulliau gweithredu eraill. Er enghraifft, mae arbedion maint posibl, gallai pynciau llai poblogaidd ddod yn fwy hyfyw, a meintiau dosbarthiadau ddod yn fwy effeithlon. Byddem yn argymell i bawb sydd â diddordeb mewn addysg roi o'u hamser i roi eu barn ar y sefyllfa drwy gwblhau'r arolwg.
Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Yn ogystal ag arolwg ar-lein dwyieithog, sy’n gallu cael ei gwblhau ar ein tudalennau ymgynghori, mae copïau papur hefyd ar gael a bydd gweithdai rhyngweithiol yn cael eu cynnal ym mhob un o ysgolion uwchradd y fwrdeistref sirol yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2019.
Bydd adroddiad ar ganlyniadau'r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i Aelodau'r Cabinet ym mis Ebrill 2019, a byddai ymgynghoriad cyhoeddus pellach yn cael ei gynnal wedyn cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.