Dull partneriaeth newydd ac arloesol wedi’i gytuno ar gyfer y sector gofal cymdeithasol
Poster information
Posted on: Dydd Llun 25 Hydref 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar ddull arloesol o gefnogi’r system iechyd a gofal cymdeithasol.
Mewn cyfarfod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth 19 Hydref, cymeradwyodd Aelodau’r Cabinet gynlluniau ar gyfer cynllun peilot a fyddai’n gweld integreiddiad agosach gyda’r bwrdd iechyd.
Bydd yn gweld nifer o weithwyr cymorth gofal iechyd o fewn tîm adnoddau cymunedol y bwrdd iechyd yn cael eu hariannu gan yr awdurdod lleol ar gyfer gwaith o fewn y sector gofal cymdeithasol.
Mae Covid-19 yn parhau i effeithio’n ddifrifol ar y sector, gyda’r galw am ofal a chymorth gartref yn cynyddu’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf a heriau parhaus wrth recriwtio staff newydd.
Rydym yn gweithio gyda’n gilydd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i gefnogi’r system iechyd a gofal cymdeithasol cyfan drwy adeiladu ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes wedi’u hintegreiddio’n llwyddiannus.
Bydd y bartneriaeth hon â’r bwrdd iechyd yn helpu i gynyddu capasiti gwasanaeth a helpu i gynnal gofal iechyd a chymdeithasol effeithlon, prydlon a diogel ar gyfer unigolion sydd wir mewn angen. Rhagwelir y bydd effaith hirdymor coronafeirws, ynghyd â'r pwysau hysbys sydd ynghlwm â phoblogaeth sy’n heneiddio, cynnydd mewn cyfraddau dementia a mwy o anghenion cymhleth a heriol yn parhau i gyflwyno gofynion cynyddol i wasanaethau sydd eisoes dan bwysau.
Drwy gyflwyno capasiti ychwanegol i wasanaethau cymunedol, bydd yn rhyddhau gwelyau ysbyty sy’n cael eu defnyddio oherwydd nad yw pobl yn gallu cael mynediad at ofal a chymorth. Mae hyn hefyd yn gwella capasiti o fewn yr ysbyty er mwyn gofalu am unigolion sy’n wirioneddol sâl.
Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar