Dros 132,000 o frechiadau wedi'u rhoi wrth i glinigau ychwanegol gael eu cyhoeddi
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 21 Mai 2021
Mae dros 132,000 dos o frechiadau coronafeirws bellach wedi'u rhoi i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae 80% o bobl wedi cael un dos ac mae un o bob tri wedi'u brechu'n llawn. Rhoddwyd cyfanswm o 421,277 o frechiadau, sy'n cynnwys 291,479 dos cyntaf a 129,798 o ail ddos. Cyfanswm nifer y dosau ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach yw 132,905, gyda 40,009 o drigolion wedi'u brechu'n llawn.
Mae'r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi y bydd clinigau ychwanegol yn cael eu cynnal o'r wythnos nesaf ar gyfer pobl dros 40 oed nad ydynt eisoes wedi cael eu dos cyntaf ac nad ydynt eisoes wedi cael apwyntiad.
Os ydych yn gymwys, gallwch lenwi’r ffurflen ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ar ôl i chi ei chwblhau, bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi. Wrth fynychu eich apwyntiad, gofynnir i chi ddod â dull adnabod ffotograffig (ID).
Gall trigolion sy'n cael trafferth llenwi'r ffurflen ffonio'r llinell gyngor brechu ar 01685 726464. Ni all y tîm llinell gyngor drefnu apwyntiadau ond bydd yn eich cynorthwyo i lenwi'r ffurflen. Mae llinellau ar agor bob dydd rhwng 9am a 4.30pm.
Gydag amrywiolion newydd o Covid-19 yn llenwi’r penawdau, rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth aros am ganllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru.
Er ei bod yn wych gweld bod nifer fawr o frechlynnau wedi'u rhoi i breswylwyr a bod cyfyngiadau'n cael eu llacio, nid yw'r feirws wedi diflannu.
Mae angen i bob un ohonom barhau i weithredu'n gyfrifol a dilyn y canllawiau sydd ar waith ar wisgo mygydau, ymbellhau cymdeithasol, golchi ein dwylo a chael prawf os yw'r symptomau'n ymddangos.
Arweinydd Cyngor, Huw David
Mae profion coronafeirws yn parhau i fod ar gael i drigolion sy'n teimlo'n sâl. Os oes gennych unrhyw un o’r tri phrif symptom - tymheredd uchel, peswch newydd, parhaus neu'ch bod wedi colli neu wedi sylwi ar newid yn eich synnwyr arogli neu flasu, mae'n rhaid ichi archebu prawf cyn gynted â phosibl a hunanynysu gartref.
Mae cyfleuster profi drwy ffenest y car ar gael yn ddyddiol ar safle hen ffatri Revlon / Cosi ger Oakwood Drive ym Maesteg (CF34 8TS), rhwng 9am a 5pm. Mae cyfleuster profi galw heibio hefyd ar gael ym maes parcio'r Neuadd Fowlio ger Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH) rhwng 2pm a 8pm.
Mae’n rhaid trefnu apwyntiad ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119 - os oes gennych broblemau gyda'ch clyw neu leferydd, ffoniwch 18001119.