Dosbarthu parseli bwyd i ddisgyblion sy'n gymwys i dderbyn prydau bwyd ysgol am ddim
Poster information
Posted on: Dydd Llun 11 Ionawr 2021
Bydd disgyblion sy'n gymwys i gael prydau bwyd ysgol am ddim ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn derbyn cyflenwad parsel bwyd yr wythnos sy'n cychwyn ar 11 Ionawr.
Mae'r parseli'n cael eu danfon i gyfeiriadau cartref pob disgybl cymwys yr wythnos hon.
Ni fydd unrhyw un sydd wedi optio allan o'r ddarpariaeth yn flaenorol yn derbyn parsel bwyd oni bai eu bod yn e-bostio FSMCOVID19@bridgend.gov.uk i adfer y ddarpariaeth.
Bydd parseli bwyd yn cael eu danfon yn yr ardaloedd canlynol ar y dyddiau canlynol:
Dydd Llun 11 Ionawr
Caerau, Cwmfelin, Garth, Llangynwyd, Maesteg, Nantyffyllon ac unrhyw ardaloedd y tu allan i'r rhanbarth.
Dydd Mawrth 12 Ionawr
Nantymoel, Cwm Ogwr, Pantyrawel, Pricetown, Lewistown, Blackmill, Evanstown, Gilfach Goch, Blaengarw, Pontycymer, Llangeinor, Braich-y-Cymer, Pantygog, Pontyrhyl, Y Pîl, Mynydd Cynffig, Cefn Cribwr, Gogledd Corneli a De Corneli.
Dydd Mercher 13 Ionawr
Notais, Y Drenewydd, Porthcawl, Abercynffig, Betws, Goytre-hen, Brynmenyn, Tondu, Sarn, Bryncethin, Bryncoch ac Ynysawdre.
Dydd Iau 14 Ionawr
Coety, Y Llidiart, Pen-y-fai, Cefn Glas, Broadlands, Bryntirion, Bracla a Threlales
Dydd Gwener 15 Ionawr
Y Felin Wyllt, tref Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, Penprysg, Llangrallo, Heol y Cyw a Rhiwceilog.
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.