Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diwrnod hanesyddol i Neuadd y Dref Maesteg wrth iddi groesawu’r cyhoedd yn ôl yn dilyn ailddatblygiad sylweddol

Mrs Leida Davies, Maeres Cyngor Tref Maesteg, Mark Shephard Prif Weithredwr, BCBC, y Cynghorydd Christopher Davies, Maer Cyngor Tref Maesteg, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Spanswick, Cymar y Maer, y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Heather Griffiths, Huw Irranca-Davies, AS, Stephen Kinnock, AS, Aelod Cabinet, y Cynghorydd Neelo Farr, Ava Plowright, Dr Richard Lewis MBE DL, Uchel Siryf Morgannwg Ganol a Richard Hughes, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Nododd dydd Mercher 20 Tachwedd 2024 ddiwrnod hanesyddol i bobl Maesteg a Chwm Llynfi ehangach, wrth i Neuadd y Dref Maesteg agor ei drysau i’r cyhoedd yn swyddogol, yn dilyn prosiect ailddatblygu hynod uchelgeisiol gwerth nifer o filiynau o bunnoedd, a gyflawnwyd gan y Cyngor a’i bartneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Ymunodd Huw Irranca-Davies, AS a Stephen Kinnock, AS Maesteg Aberafan ag Arweinydd Cyngor a Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, John Spanswick a’r Cynghorydd Heather Griffitihs i dorri'r rhuban ac agor yr adeilad yn swyddogol o flaen y cyhoedd a oedd yn gwylio.

Mynychodd teulu’r artist enwog lleol, Christopher Williams, yr agoriad, ynghyd â phwysigion eraill, i weld hanes yn cael ei greu.

Cafodd ymwelwyr fwynhau taith o amgylch y cyfleusterau newydd sbon a gweld y gwelliannau, ynghyd ag adloniant gan gorau o ysgolion lleol a thelynor, yn ogystal ag ymweld â digwyddiadau yn yr ardal lyfrgell newydd.

Bydd cwblhau'r gwaith yn arwain at yr adeilad yn dychwelyd i’w fawredd blaenorol, gyda nodweddion ychwanegol, gan gynnwys atriwm gwydr, llyfrgell a chanolfan dreftadaeth, theatr stiwdio ac ardal sinema, ynghyd â chaffi a bar mesanîn.

Mae’r prif awditoriwm wedi cael ei adnewyddu’n llawn i fod yn lleoliad celfyddydau perfformio aml-swyddogaethol unwaith eto, ac mae hyn yn cynnwys lifft llwyfan, ystafelloedd gwisgo a bar. Mae'r balconi hefyd wedi cael ei gadw a'i adnewyddu.

Mae atriwm gwydr modern a chyntedd yn wynebu Stryd Talbot yn cysylltu dwy ardal yr adeilad. Mae mynediad i bobl anabl hefyd wedi gwella drwy ddarparu lifft.

Mae gwarchod nodweddion treftadaeth bensaernïol yr adeilad, fel y colofnau, cornisiau, teils a’r pyrth bwaog brics wedi bod yn rhan allweddol o’r prosiect. Mae paentiadau hanesyddol gan Christopher Williams hefyd wedi cael eu hadfer a byddant yn cael eu harddangos yn y brif neuadd.

Rwyf yn hapus ac yn falch iawn o fod yn sefyll yma gyda chi heddiw, i weld Neuadd y Dref Maesteg yn ailagor ar ôl llawer o edrych ymlaen - mae gennym leoliad celfyddydol a diwylliant gwych, lle mae’r gorffennol a’r presennol yn cwrdd, y gall pawb ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod yn eithriadol o falch ohono.

Rydym yn gwybod na fyddai prosiect adnewyddu uchelgeisiol iawn o’r natur a’r raddfa hon wedi digwydd heb ei heriau. A phwy allai fod wedi rhagweld pandemig byd-eang yn cyrraedd fel yr oeddem ar fin cychwyn ar y daith anhygoel hon? Ond rwyf yn falch o ddweud ein bod wedi cyrraedd y diwrnod hanesyddol hwn, ac o’ch blaen mae canlyniad gwir bartneriaeth yn gweithio ar ei gorau. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ganmol gwaith gwych yr holl dimau a oedd yn rhan o'r prosiect, o fewn yr awdurdod lleol a’n holl bartneriaid allanol, sydd wedi gweithio’n ddiflino ar y prosiect hwn i oresgyn rhai heriau hynod o gymhleth.

Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i fasnachwyr marchnad, busnesau, trigolion ac ymwelwyr canol tref Maesteg am eu hamynedd gyda ni yn ystod y gwaith adnewyddu. Gobeithiaf y byddwch yn cytuno bod yr adeilad poblogaidd, eiconig hwn nid yn unig wedi dychwelyd i’w fawredd blaenorol, ond wedi cael ei wella’n sylweddol, i sicrhau y gall pobl o bob oed a gallu yng Nghwm Llyfni a’r ardaloedd o’i amgylch ymweld a mwynhau.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor John Spanswick:

Ategodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Os oes un gair sy’n gyfystyr â Neuadd y Dref Maesteg, treftadaeth yw hwnnw. Treftadaeth ffisegol, gymdeithasol a diwylliannol, oll mewn un. Mae’r lle hwn yn llawn dathliad o’r gorffennol, ac yn rhoi cyfle ac ysbrydoliaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ar yr un pryd.

“Mae’r Neuadd yn cynrychioli gwydnwch ac ysbryd cymunedol Cwm Llynfi, ac mae’n deyrnged barhaus i bawb a gyfrannodd at yr adeilad a’i ran ym mywyd y dref dros y ganrif ddiwethaf. Nawr, mae’n rhaid i ni ddathlu, hyrwyddo a gweiddi’n uchel fod gennym un o’r lleoliadau diwylliannol gorau yng Nghymru yma yng Nghwm Llynfi. Gyda’n gilydd, rydym wedi amddiffyn y gorffennol, nawr mae’n rhaid i ni fwynhau ei ddyfodol disglair.”

Dywedodd Huw Irranca-Davies, AS a gyfarchodd mynychwyr yn yr agoriad swyddogol: “Y neuadd hon yw curiad calon Maesteg. Wedi’i adeiladu gan y gymuned leol, ar gyfer y gymuned leol, nifer o flynyddoedd yn ôl. Mae’r adeilad wedi gweld perfformiadau rhyfeddol ac achlysuron hollbwysig yn ystod ei 140 mlynedd o hanes. Mae’r holl ddiolch yn mynd i waith partneriaeth gwych y gymuned leol, perchnogion busnes, cyngor y dref a’r awdurdod lleol, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sydd wedi dyfal barhau gyda’r prosiect, wedi cadw'r ffydd ac wedi darparu cyfleuster gwych y gall y gymuned gyfan ei fwynhau.”

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru yn cynnwys CADW, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cyngor Tref Maesteg, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Davies ac Ymddiriedolaeth Pilgrim.

Chwilio A i Y