Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddaru ardal chwarae i blant gyda buddsoddiad gwerth £500k

Mae gwaith wedi dechrau ar raglen fuddsoddi gwerth £500k, sydd â'r nod o adnewyddu ardaloedd chwarae a diweddaru hen offer ledled y fwrdeistref sirol. Mae'r gwaith yn cael ei wneud mewn cyfres o gontractau a reolir gan yr adran Mannau Gwyrdd.

Mae gwaith adnewyddu'n mynd rhagddo ar y safleoedd canlynol, y mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd y mis:

  • Parc Caedu, Parc Rhodfa, Cwm Ogwr
  • Parc Cavendish, Cae Canol, Notais, Porthcawl
  • Parc Llesiant Evanstown, Heol-Y-Parc, Evanstown
  • The Precinct, Melin Wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Teras Woodlands, Caerau Maesteg

Bydd gwaith i adnewyddu'r safleoedd canlynol yn dechrau fis Medi 2022: 

  • Stryd Adare, Cwm Ogwr
  • Heol y Goedwig, Porthcawl
  • Ardal Chwarae Stryd Newydd, Stryd y Dderwen, Abercynffig
  • Ardal Chwarae Swyddfa Bost Tondu, Heol Maesteg, Tondu

Mae gwaith pellach ar y gweill i adnewyddu dodrefn stryd ar y safleoedd hyn ar ôl gosod yr offer newydd. 

Rydym yn cydnabod bod parciau ac ardaloedd chwarae yn ffurfio rhan allweddol o'n cymunedau, gan alluogi pobl ifanc i gael hwyl ac i chwarae'n ddiogel.

Dyma pam ein bod yn gwneud buddsoddiad sylweddol i wella'r ardaloedd hyn, a fydd yn cynnwys offer chwarae cynhwysol y gall plant ifanc o bob gallu eu mwynhau.

Bydd y rhaglen adnewyddu yn sicrhau bod modd i deuluoedd lleol a phobl ifanc defnyddio'r ardaloedd chwarae hyn am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick:

Chwilio A i Y