Diweddariadau diweddaraf i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 19 Mehefin 2020
Bydd nifer o newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth i wasanaethau ddechrau dychwelyd i'w lefelau cyn y cyfyngiadau symud.
Rydym yn crynhoi rhai o'r prif newidiadau yma:
Canolfannau ailgylchu cymunedol
Nid yw'r system odrif ac eilrif ar gyfer rhifau cerbydau ceir yn cael ei defnyddio mewn canolfannau ailgylchu cymunedol bellach, er mai ychydig o gerbydau yn unig sy'n cael mynd i'r safleoedd ar unrhyw adeg benodol.
O ddydd Llun, 29 Mehefin, bydd y canolfannau ailgylchu hefyd yn caniatáu faniau a threlars ar eu safleoedd a bydd y system drwyddedau ar gyfer trefnu amser ar waith.
Rhaid didoli'r holl eitemau a deunyddiau cyn cael mynediad at ganolfan ailgylchu, ac un person yn unig fydd yn cael dod allan o'r car i waredu'r gwastraff.
Gwasanaeth gwastraff gardd
Bydd trigolion sy'n dymuno cofrestru ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd yn cael cyfle i wneud hynny o heno ymlaen (dydd Gwener, 19 Mehefin). Daeth y gwasanaeth i ben dros dro yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud ond ailddechreuodd ddechrau mis Mai.
Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar nifer y cofrestriadau y mae'r gwasanaeth yn gallu eu derbyn a bydd yn gweithredu ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd y gwasanaeth yn costio £38.30 fesul cartref am y cyfnod sy’n weddill o’r gwasanaeth, neu £34.30 i bensiynwyr.
Terfyn dau fag o wastraff
O 29 Mehefin, bydd angen i gartrefi gadw’n llym at y terfyn dau fag o wastraff. Casglwyd bagiau ychwanegol o dan amgylchiadau eithriadol pan oedd y canolfannau ailgylchu cymunedol ar gau dros dro, ond gan eu bod ar agor unwaith yn rhagor, mae'r terfyn ar waith unwaith eto.
Rydym am ddiolch i'n holl drigolion am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni lywio'n ffordd trwy'r cyfnod heriol iawn hwn. Mae casglwyr sbwriel ac ailgylchu Kier a’n tîm glanhau strydoedd ein hunain wedi gwneud gwaith rhyfeddol wrth gadw ein cymdogaethau’n lân ac yn daclus. Casglwyd swm anferth o wastraff.
Fodd bynnag, rydym yn dal i gael problemau gyda thipio anghyfreithlon o amgylch banciau dillad, yn arbennig ym Maesteg. Rydym wrthi'n gweithio gyda'r elusen berthnasol i gael gwared â'r banciau dillad o'r maes parcio ym Maesteg, ond rydym yn annog pobl i gael gwared ar eu gwastraff yn y ffordd gywir yn hytrach na'i ddympio, sy'n edrych yn hyll ac yn costio swm sylweddol o arian i'w glirio.
O 29 Mehefin, bydd gweithdrefnau casglu sbwriel hefyd yn cael eu tynhau o ran y rheol dau fag o wastraff – mae hyn yn cyd-fynd â'r ffaith fod y canolfannau ailgylchu wedi ailagor. Mae gan ein swyddogion addysg a gorfodi weithdrefnau ar waith i gefnogi ac atgyfnerthu'r rheol. Fodd bynnag, yn ôl yr arfer, nid oes cyfyngiad o hyd ar faint o ddeunyddiau ailgylchu y gellir eu gosod allan i'w casglu.
Dywedodd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau