Diweddariad ynghylch y cyfleuster profi Covid-19 yn Llangeinor
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 28 Hydref 2020
Mae'r cyfleuster profi symudol yng Nghanolfan Richard Price, Llangeinor wedi ailagor heddiw (dydd Mercher, 28 Hydref) ar ôl i broblemau technegol ei orfodi i gau'n gynnar ddoe.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau ei fod wedi ail-leoli uned brofi symudol o leoliad arall yn y rhanbarth i'r Ganolfan Richard Price er mwyn sicrhau bod cyfleuster profi yn parhau i fod yn y fwrdeistref sirol.
Roedd y bwrdd iechyd wedi cynllunio cau'r cymhwyster ar ddiwedd y dydd heddiw (dydd Mercher) ond oherwydd bod cyfleuster wedi'i symud yno o leoliad arall bydd uned brofi yn parhau i fod yng Nghanolfan Richard Price tan rywbryd wythnos nesaf.
Gallwch gael gafael ar brawf naill ai drwy alw i mewn yn ystod y dydd neu drwy archebu ymlaen llaw.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Mae unedau profi symudol yn ymateb yn gyflym i ardaloedd lle mae niferoedd uchel yn dod i'r amlwg ac o ganlyniad cânt eu cyfeirio at feysydd sy'n peri pryder am gyfnodau penodol o amser.
"Rydym yn cael ein harwain gan ddata Iechyd Cyhoeddus Cymru - gyda'r niferoedd yn codi dros yr wythnosau diwethaf ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar waith i alluogi preswylwyr i gael eu profi'n agos i le maent yn byw."
Yn fuan, bydd y bwrdd iechyd yn cyhoeddi manylion safle profi newydd yn y fwrdeistref sirol.