Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad ynghylch cymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i'r cynllun 'Cartrefi i Wcráin' ac apêl am fwy o westeiwyr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o fod wedi croesawu dros 80 o unigolion o Wcráin i'r fwrdeistref sirol yn barod, ac rydym yn disgwyl y bydd mwy yn cyrraedd dros yr wythnosau nesaf, gyda dros 210 o geisiadau fisa unigol wedi'u paru hyd yn hyn.

Mae Cartrefi i Wcráin yn gynllun i helpu pobl o Wcráin nad oes ganddynt deulu yn y DU. Mae'n galluogi pobl i noddi unigolyn sy'n ffoi o Wcráin i ddod i fyw yn y DU.

Mae'r Cyngor hefyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru fel 'uwch noddwr' ar gyfer y cynllun ac yn deall y bydd nifer o bobl yn y fwrdeistref sirol eisiau gwneud popeth yn eu gallu i helpu pobl Wcráin. Hoffem apelio am ragor o westeiwyr i gamu i'r adwy i gefnogi'r achos gwerth chweil hwn.

Fel diolch am gamu ymlaen, mae gwesteiwyr yn cael taliad o £350 y mis, ac mae'r unigolion o Wcráin yn cael taliad o £200 dros dro.

Mae'r awdurdod lleol hefyd yn cynnig cymorth cyffredinol i'r ffoaduriaid, yn cynnig arweiniad a chymorth ynghylch cael mynediad at addysg, iechyd a chyllid, yn ogystal â threfnu gwiriadau diogelwch cychwynnol, gan gynnwys gwiriadau DBS ac eiddo ar y gwesteiwyr ac ymweliadau â theuluoedd ar ôl cyrraedd.

Gallwch gofnodi eich diddordeb mewn cynnig eich cartref fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin os ydych yn bodloni'r canlynol:

  • yn gallu cynnig llety am o leiaf 6 mis
  • yn ddinesydd Prydeinig neu â chaniatâd i aros yn y DU am o leiaf 6 mis

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy neu/a dod yn noddwr, anfonwch e-bost at: UkraineResponse@bridgend.gov.uk.

Rydym yn hynod falch o chwarae rhan wrth gynnig cymorth i Wcráin yn ystod y cyfnod heriol tu hwnt hwn. Mae'n dda gwybod bod dros 80 o unigolion o Wcráin wedi cael cartref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn barod, a hoffwn annog trigolion eraill i gofrestru ar gyfer y cynllun hefyd.

Mae Cymru'n noddfa, ac felly hefyd mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae wedi bod yn galonogol gweld cymunedau lleol yn gwneud ymholiadau ynghylch sut i gynnig help a chymorth.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant

Chwilio A i Y