Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad newydd ynghylch y taliad cost-byw o £150

Fis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £152m o gronfa i ddarparu taliad cost-byw o £150 i gartrefi cymwys a £25m yn ychwanegol i gynnig cymorth dewisol at ddibenion eraill sy'n gysylltiedig â chostau byw.

Bu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu ei systemau ar gyfer y cynllun newydd hwn er mwyn sicrhau bod y taliadau’n cael eu prosesu mor ddidrafferth â phosib, a dylai preswylwyr dderbyn y taliad ym mis Mai 2022.

Bydd preswylwyr ym Mandiau A-D y dreth gyngor sy’n talu eu treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol ar hyn o bryd, yn derbyn eu taliadau’n awtomatig. Cysylltir â’r rheiny nad ydynt yn talu drwy ddebyd uniongyrchol a byddant yn cael eu cynghori i gofrestru ar gyfer y taliad – cyhoeddir manylion pellach am hyn yn fuan.

Bwriad y cynlluniau yw darparu cymorth wrth i Gymru adfer yn sgil pandemig Covid-19 a chefnogi aelwydydd i ymdopi ag effaith y cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill.

Cymhwystra

Bydd aelwydydd yn gymwys am y taliad hwn os:-

  • Oeddent yn derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar 15 Chwefror 2022, waeth beth fo'r band prisio y lleolir eu heiddo ynddo.

NEU

Os yw aelwyd yn meddiannu eiddo ym Mandiau A i D y dreth gyngor, a’u bod:

  • Yn gyfrifol am y dreth gyngor ar eiddo ar 15 Chwefror 2022;
  • Heb dderbyn eithriad
  • Yn meddiannu eiddo ar 15 Chwefror 2022 ac ar ddyddiad penderfynu’r dyfarniad;
  • Yn byw yn yr eiddo fel eu prif breswylfa;
  • Yn gyfrifol am dalu'r biliau cyfleustodau a biliau cysylltiedig rheolaidd eraill ar gyfer yr eiddo. Bydd awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r cynllun yn cymryd yn ganiataol, yn rhesymol, bod aelwydydd sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor hefyd yn gyfrifol am dalu'r bil cyfleustodau a biliau rheolaidd eraill.

Mae aelwydydd sy'n byw mewn eiddo sy'n denu gostyngiad band addasiad anabledd yn gymwys i gael taliad dan yr amgylchiadau canlynol e.e. mae eiddo sydd wedi'i brisio fel Band E ond sy'n cael gostyngiad band addasiad anabledd i Fand D, yn gymwys.

Mae pob aelwyd wedi’i gyfyngu i un taliad o £150 yn unig.

Bydd manylion y cynllun dewisol yn cael eu cyhoeddi pan fyddant wedi’u cytuno.

Chwilio A i Y