Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad newydd ynghylch Gorsaf Fysiau Maesteg

Cadarnhaodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu bod yn gweithio i ddatrys y broblem barhaus o gerbydau’n parcio heb awdurdod yng Ngorsaf Fysiau Maesteg.

Yn gynharach y mis hwn, penderfynodd First Cymru Buses Ltd dynnu eu gwasanaethau bws o’r orsaf fysiau o ganlyniad i ddamwain rhwng car a bws.

Gwelwyd gyrwyr yn defnyddio’r orsaf fysiau’n anghyfreithlon ar gyfer troi a pharcio – gan greu problem ddiogelwch yn ogystal â mynd yn erbyn gorchymyn traffig sy’n gwahardd cerbydau ar wahân i fysiau rhag cael mynediad i’r ardal, sy’n orfodol gan Heddlu De Cymru.

Yn dilyn ymdrechion aflwyddiannus i atal yr ymddygiad hwn drwy arwyddion clir a cheisiadau i beidio â gwneud hyn, mae’r awdurdod lleol wedi gwneud cais am orfodaeth bellach o’r drosedd ynghylch traffig sy’n symud.

Nid oes gan y Cyngor y pŵer i orfodi’r cyfyngiad presennol

Ar hyn o bryd rydym yn ceisio cyflwyno gorchymyn ychwanegol a fyddai’n caniatáu gorfodaeth sifil a rheoli pryderon y cwmni bysiau ymhellach o ran diogelwch y cyhoedd.

Yn y cyfamser, mae’r cwmni bysiau’n cynnal eu gwasanaethau o arosfannau bysiau cyfagos. Er enghraifft, mae Gwasanaeth Rhif. 70/71 yn gweithredu o Stryd y Castell, y tu allan i Gampws Maesteg a gyferbyn ag o.

Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

Atgoffir gyrwyr y gallant ddefnyddio’r ddarpariaeth parcio rhad ac am ddim gerllaw’r orsaf fysiau ar Ffordd Llynfi.

Chwilio A i Y