Diweddariad COVID-19 gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Llun 22 Mehefin 2020
Wrth i bandemig y coronafeirws COVID-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn canolbwyntio ei adnoddau ar ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy’n agored i niwed. Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o’r datblygiadau diweddaraf.
Parcio am ddim yng nghanol trefi
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau na fydd yn rhaid talu i ddefnyddio meysydd parcio yng nghanol trefi y mae’r cyngor yn eu cynnal a’u cadw rhwng nawr a diwedd mis Gorffennaf. Rhoddir y consesiwn hwn, sy’n dilyn y wybodaeth ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i siopau nad ydynt yn hanfodol ailagor, fel rhan o gymorth cyffredinol y cyngor i fusnesau lleol. Yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, mae modd parcio ym meysydd parcio aml-lawr y Rhiw a Stryd Bracla yn ogystal â’r maes parcio awyr agored y tu ôl i siop Wilkinsons. Ym Mhorthcawl, bydd modd parcio am ddim ym meysydd parcio Hilsboro a Stryd Ioan. Bydd y maes parcio yn Salt Lake yn parhau ar gau hyd nes y clywir yn wahanol. Ni chaniateir parcio am ddim ym maes parcio Bae Rest, sydd bellach ar agor unwaith eto gyda pheiriannau talu ac arddangos. Mae llwybr pren Bae Rest hefyd wedi ailagor, ac mae modd parcio am ddim o hyd ym Mhencoed a Maesteg.
Cymorth i siopau ailagor
Caiff busnesau adwerthu nad ydynt yn hanfodol eu hatgoffa bod adnodd newydd ar-lein a hyfforddiant am ddim ar gael i’w helpu i ailagor gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol a mesurau i ddiogelu staff a chwsmeriaid ar waith. Mae’r adnodd ar-lein yn rhoi manylion am gwestiynau cyffredinol fel sut gall busnesau newid cynllun eu lleoliad i helpu i ddiogelu staff a chwsmeriaid, a oes angen gwisgo masgiau wyneb, pa ddisgwyliadau y gall cwsmeriaid eu disgwyl, pam y dylid annog talu digyswllt a mwy. Caiff ei ddiweddaru’n rheolaidd wrth i’r sefyllfa ddatblygu’n fwy ac wrth i ragor o ganllawiau cenedlaethol ddod i’r golwg.
Gwasanaethau achub bywydau’n ailddechrau
Mae patrolau tymhorol achub bywydau Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) wedi ailddechrau ym Mae Rest, ac mae disgwyl iddynt ddechrau ar Draeth Coney ac ym Mae Sandy ar 4 Gorffennaf. Cynigir y gwasanaeth hefyd ym Mae Trecco o 4 Gorffennaf, yn unol â’r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ariennir patrolau RNLI yn rhannol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Tref Porthcawl a Parkdean Resorts, ac mae’r RNLI yn talu am gostau ychwanegol drwy eu gweithgareddau codi arian cenedlaethol a lleol. Bydd staff y cyngor hefyd yn ymgymryd â dyletswyddau mynd ar batrôl ychwanegol ar draethau ac yn rhoi mesurau ychwanegol ar waith.
Gwirfoddolwyr gwylio’r arfordir ar waith
Mae tîm penodedig o wirfoddolwyr Sefydliad Cenedlaethol Gwylio’r Arfordir (NCI) hefyd yn helpu i gadw pobl yn ddiogel. Yn Harbwr Porthcawl, mae’r gwirfoddolwyr yn monitro symudiadau pob llong ym Môr Hafren, a byddant yn gweithio’n agos gyda’r cyngor a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) i ofalu am draethau lleol. I’w cefnogi wrth wneud hyn, mae’r cyngor wedi gosod dau gamera o’r radd flaenaf i helpu’r NCI i weld unrhyw un mewn perygl yn y môr neu ger y dŵr, gan ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach nodi digwyddiadau i wylwyr y glannau ac i’r gwasanaethau brys.
Sesiynau ailgydio a gofal plant brys
Bydd ysgolion lleol yn cau am wyliau’r haf 2020 ddydd Gwener 17 Gorffennaf. Er mwyn sicrhau goruchwyliaeth briodol ac i flaenoriaethu diogelwch a lles disgyblion, darperir y sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ gwirfoddol mewn amserlen o dair wythnos, a bydd pob disgybl sy’n cymryd rhan yn cael dau ddiwrnod llawn o gefnogaeth.
Gofal plant brys
Bydd ysgolion unigol yn cynnig gofal plant brys i blant gweithwyr allweddol cymwys rhwng 8.30am a 4.30pm rhwng 22 Mehefin a 17 Gorffennaf. Bydd angen i deuluoedd wneud trefniadau gofal plant amgen rhwng 20 Gorffennaf a 31 Awst oherwydd na fydd gofal plant brys ar gael dros wyliau’r haf.
Nodyn atgoffa am fasgiau wyneb
Gofynnir i bobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb tair haen ar drafnidiaeth gyhoeddus a lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol. Er nad yw’n orfodol, anelir y cyngor newydd at bobl nad ydynt yn dangos symptomau’r coronafeirws. Dylid defnyddio masgiau cotwm yn hytrach na rhai sidan neu neilon, ac ni ddylid eu gwisgo mwy na phedair awr. Dylai unrhyw un sy’n gwisgo gorchudd olchi eu dwylo a’r masg ar ôl ei ddefnyddio. Os na ellir golchi’r masg rhwng teithiau, dylai unrhyw un sy’n defnyddio trên neu fws ddwywaith y dydd wisgo masg gwahanol ar gyfer pob taith.
Canolfannau ailgylchu a gwastraff dau fag
O heddiw ymlaen, bydd modd defnyddio faniau a threlars unwaith eto mewn canolfannau ailgylchu cymunedol a bydd y systemau drwyddedau’n cael ei defnyddio. Rhaid rhoi trefn ar yr holl ddeunyddiau cyn mynd i mewn i ganolfan ailgylchu, ac un unigolyn yn unig sy’n cael mynd allan o’r cerbyd i gael gwared ar wastraff. Atgoffir cartrefi hefyd fod yn rhaid cadw at y terfyn o ddau fag gwastraff yn llym o heddiw ymlaen, a bod lleoedd cyfyngedig ar gael ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd, sydd wedi'i ail-lansio.
Cyfleoedd gofal cymdeithasol
Mae angen mwy o bobl i gefnogi trigolion mwyaf agored i niwed y fwrdeistref sirol. Mae nifer o gyfleoedd ar gael am waith, a gwahoddir unrhyw un sydd wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn y gorffennol neu sydd â sgiliau trosglwyddadwy i wneud cais. Mae proses gwneud cais garlam a chwrs hyfforddi gloywi cyflym ar gael. I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r tudalennau swyddi ar wefan y cyngor.
Cysylltu â’r cyngor
Mae’r Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn y Swyddfeydd Dinesig yn Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, ar gael o hyd i’r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio’r cyfleusterau Fy Nghyfrif a gwe-sgwrs Oggie, neu anfon e-bost at talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643.