Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad COVID-19 gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Wrth i bandemig y coronafeirws COVID-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont at Ogwr yn canolbwyntio ei adnoddau ar ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy’n agored i niwed. Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o’r datblygiadau diweddaraf.

Hwb yn ystod y pandemig i deithio llesol
Mae llwybrau cerdded a beicio lleol wedi cael hwb gwerth £620,000 gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella llwybrau lleol a mwy na 150 o bwyntiau croesi cyffyrddol yn ogystal â chreu llwybr teithio llesol dros dro 2.5km o hyd rhwng Cyrchfan Llangrallo a chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd hwn yn cynnwys Rhodfa Ffordd y Brenin ar Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd Efrog a Heol y Bont-faen, a bydd yn cael ei fonitro’n agos gyda’r opsiwn o’i ddatblygu’n llwybr parhaol. Daw hyn yn sgil cwblhau llwybr cerdded a beicio newydd a diogel gwerth £1.5 miliwn sy’n cysylltu Pencoed a Llangrallo i Ben-y-bont ar Ogwr – rhagor o fanylion yn fuan.

Llwybrau teithio ychwanegol
Mae’r cyngor hefyd yn aros am ganlyniad pecyn teithio llesol gwerth £4 miliwn a gyflwynwyd ym mis Chwefror ar gyfer 2020/21, i dalu am welliannau rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phencoed, llwybr teithio llesol rhwng y Pîl a Phorthcawl, a llwybr newydd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phentref Manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr.

Cefnogi siopau i ailagor
Mae siopau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cymorth pellach ar ailagor yn ddiogel. Rhaid i adwerthwyr ystyried sut y gall pobl sefyll mewn ciw y tu allan i’w siop a chadw pellter cymdeithasol, a rheoli hyn, e.e. drwy osod marcwyr 2 fetr ar wahân, yn ddelfrydol ar lefel llygaid, ar hyd blaen y siop, gan gymryd gofal i beidio ag effeithio ar unrhyw adeiladau cyfagos. Gan mai’r perchennog fydd yn gyfrifol am unrhyw farcwyr a roddir ar y briffordd, rhaid cymryd gofal i sicrhau na fyddant yn achosi perygl llithro neu faglu i'r cyhoedd, eu bod yn rhai dros dro, a’u bod wedi’u gwneud o gynnyrch â gwead addas. Gallwch edrych ar y datblygiadau diweddaraf drwy fynd i’r adnodd newydd ar-lein ar wefan y cyngor.

Rhybudd am feicio oddi ar y ffordd
Yn dilyn ymgyrch ddiweddar yng Nghwm Garw, caiff trigolion eu hatgoffa ei bod yn anghyfreithlon mynd ar gefn beiciau modur oddi ar y ffordd mewn mannau agored cyhoeddus fel parciau, mannau chwarae neu balmentydd. Mae'r cyngor yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu De Cymru i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y pandemig, a gall preswylwyr gefnogi hyn trwy adrodd os ydynt yn gweld beiciau modur oddi ar y ffordd drwy ffonio 101 neu drwy e-bostio publicservicecentre@south-wales.pnn.police.uk. Mae gan yr heddlu y pŵer i ymafael yng ngherbydau a ddefnyddir yn amhriodol, ac mae’r cosbau am drosedd o'r fath yn cynnwys dirwyon neu fynd i’r llys.

Peidiwch â dioddef yn dawel
Mae ystod o gymorth brys ar gael o hyd drwy gydol pandemig y coronafeirws COVID-19 parhaus. Mae'r gefnogaeth trais yn y cartref a gynigir gan wasanaeth Ystafell Assia Gwasanaeth Trais yn y Cartref Calan yn canolbwyntio'n bennaf ar gyswllt ffôn, a chynhelir apwyntiadau personol lle mae'n ddiogel gwneud hynny. Mae llety lloches yn parhau, fel y mae cefnogaeth ar alwad – gallwch gael cymorth neu gael rhagor o wybodaeth drwy ffonio 01656 815919 neu drwy e-bostio assia@calandvs.org.uk. Mae Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH) Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i gynnig gwasanaethau diogelu i blant ac oedolion agored i niwed. Os oes gennych bryderon am blentyn, ffoniwch 01656 642320 neu e-bostio mashcentra@bridgend.gov.uk. Cyfeiriwch bryderon am oedolion at 01656 642477 neu adultsafeguardingMASH@bridgend.gov.uk, a gallwch fynd i dudalen MASH i gael rhagor o wybodaeth.

Defnyddio banciau bwyd
Gallwch gael y manylion diweddaraf am ba fanciau bwyd sydd ar agor a sut y gellir eu defnyddio yn ystod y pandemig parhaus drwy fynd i wefan Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr neu edrych ar eu tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cyfleoedd gofal cymdeithasol
Mae angen mwy o bobl i gefnogi trigolion mwyaf agored i niwed y fwrdeistref sirol. Mae nifer o gyfleoedd ar gael am waith, a gwahoddir unrhyw un sydd wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn y gorffennol neu sydd â sgiliau trosglwyddadwy i wneud cais. Mae proses gwneud cais garlam a chwrs hyfforddi gloywi cyflym ar gael. I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r tudalennau swyddi ar wefan y cyngor.

Cysylltu â’r cyngor
Mae’r Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn y Swyddfeydd Dinesig yn Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, ar gau o hyd i’r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio’r cyfleusterau Fy Nghyfrif a gwe-sgwrs Oggie, neu anfon e-bost at talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643.

Chwilio A i Y