Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad COVID-19 Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Wrth i bandemig y coronafeirws COVID-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn canolbwyntio ei adnoddau ar ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy’n agored i niwed. Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o’r datblygiadau diweddaraf.

Dyddiad cau yn agosáu ar gyfer cymorth ariannol
Mae gan siopau elusennol, adeiladau chwaraeon a chanolfannau cymunedol hyd at 30 Mehefin i wneud cais am grant cymorth busnes gwerth £10,000 gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynllun grantiau Elusennau Bach wedi’i anelu at sefydliadau cymwys sydd â safleoedd yn y sector adwerthu, hamdden a lletygarwch â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai – cewch y manylion llawn am bwy sy’n gymwys a sut i wneud cais ar wefan y cyngor.

Cyfle olaf ar gyfer grantiau busnes
Mae’r dyddiad cau o 30 Mehefin hefyd yn prysur agosáu i fusnesau lleol sy’n dymuno gwneud cais am gymorth ariannol er mwyn eu helpu i fynd i’r afael â heriau’r pandemig. Darparwyd mwy na £28 miliwn hyd yn hyn, ac mae’r cyngor wedi prosesu 2,256 o geisiadau gan fasnachwyr lleol. Gall busnesau wneud cais i’r gronfa gan ddefnyddio ffurflen ar-lein.

Dyddiad cau am gymorth gan Chwaraeon Cymru
Dydd Mawrth 30 Mehefin yw’r dyddiad cau hefyd am geisiadau gan glybiau chwaraeon i Gronfa Cymorth mewn Argyfwng Chwaraeon Cymru. Nod y cynllun yw cynnig arian a fydd yn helpu clybiau chwaraeon i oroesi yn ystod pandemig y coronafeirws, ac mae manylion am wneud cais ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru. Mae’r cyngor hefyd wedi sicrhau bod £64,980 ar gael i glybiau drwy Gronfa Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n atal ffioedd am ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon am weddill y flwyddyn.

Cyfarfod rhithwir y Cabinet
Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwrdd yn rhithwir am y tro cyntaf ddydd Mawrth 30 Mehefin. Byddant yn ystyried adroddiadau am faterion sy’n amrywio o gynllun adfer yr economi, adeilad newydd sbon i Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, gwaith i atal llifogydd a mwy. Caiff y cyfarfod ei recordio a’i roi ar-lein a gallwch weld yr agenda a chael rhagor o wybodaeth ar wefan y cyngor.

Helpu i gadw siopwyr yn ddiogel
Mae rhwystrau a marciau ffordd yn cael eu rhoi mewn lleoliadau allweddol i helpu i gadw siopwyr yn ddiogel ac i leihau nifer y bobl a allai ddod i gysylltiad â’r coronanfeirws. Stryd Talbot ym Maesteg fydd yr ardal gyntaf a fydd yn elwa wrth i rannau cul o’r palmentydd yn cael eu hehangu i roi mwy o le i gerddwyr, gan ganiatáu iddynt gadw pellter cymdeithasol. Rhoddir rhwystrau mewn cilfachau parcio ar y strydoedd gerllaw er mwyn inni allu ehangu lled y palmant. Bydd modd parciau mewn mannau eraill pan fydd y mesurau dros dro hyn ar waith, a chedwir mannau i lwytho a dadlwytho. Os bydd y cynllun yn llwyddiannus, caiff ei estyn i ardaloedd fel Stryd Nolton ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Lias Road ym Mhorthcawl, ac efallai y caiff mesurau pellach eu cyflwyno mewn ymateb i ddatblygiadau pellach yn y pandemig neu wrth i ganllawiau cenedlaethol newydd ddod i’r golwg.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan wasanaeth govDelivery
Gall trigolion gael newyddion a gwybodaeth wedi’u teilwra gan y cyngor diolch i govDelivery – platfform gwybodaeth diogel lle gallwch ddewis diweddariadau ar y pynciau a’r newyddion sydd o ddiddordeb i chi. Mae’r platfform am ddim yn hynod ddefnyddiol yn ystod y pandemig parhaus, a gallwch gofrestru, newid eich dewisiadau neu allgofnodi ar unrhyw adeg – cewch wybod mwy am sut y gallai eich helpu chi.

Cymorth i ofalwyr
Gall unrhyw un sy’n gofalu am berthynas, cymydog neu ffrind gael cymorth a chefnogaeth yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae’r Gwasanaeth Lles Gofalwyr yn cynnig llinell gymorth ddydd a nos i roi cyngor i bobl o ran lle y gallant gael adnoddau cymunedol, tra bo gwefan y cyngor yn cynnig gwybodaeth a dolenni ar gymorth a chadw’ch hun yn ddiogel. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen gofalwyr y cyngor neu wefan Ymddiriedolaeth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru. Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth 24/7 Gwasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 336969.

Cyfleoedd gofal cymdeithasol
Mae angen mwy o bobl i gefnogi trigolion mwyaf agored i niwed y fwrdeistref sirol. Mae nifer o gyfleoedd ar gael am waith, a gwahoddir unrhyw un sydd wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn y gorffennol neu sydd â sgiliau trosglwyddadwy i wneud cais. Mae proses gwneud cais garlam a chwrs hyfforddi gloywi cyflym ar gael. I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r tudalennau swyddi ar wefan y cyngor.

Cysylltu â’r cyngor
Mae’r Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn y Swyddfeydd Dinesig yn Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, ar gau o hyd i’r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio’r cyfleusterau Fy Nghyfrif a gwe-sgwrs Oggie, neu anfon e-bost at talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643. 

Chwilio A i Y