Diweddariad Covid-19 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 22 Rhagfyr 2020
Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau'r cyngor ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i weithredu ers i amodau lefel rhybudd pedwar ddod i rym yng Nghymru dros y penwythnos.
Fodd bynnag, gydag achosion positif o coronafeirws yn parhau i godi, mae'r awdurdod yn cyhoeddi rhybuddion llym y gallai rhai gwasanaethau gael eu heffeithio yn y tymor hwy os bydd mwy o bobl yn mynd yn sâl neu'n cael eu gorfodi i hunanynysu.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: “Mae'r ystadegau diweddaraf wedi cadarnhau mai Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw'r ardal uchaf ond un yn y DU gyfan ar hyn o bryd ar gyfer achosion positif o coronafeirws, felly mae'n bwysicach nag erioed i drigolion lleol ddod at ei gilydd fel un gymuned, yn unedig yn y frwydr yn erbyn y pandemig.
“Er mor anodd y gallai fod, mae'n rhaid i ni wynebu dathlu'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd mewn ffyrdd gwahanol iawn eleni, a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad oes unrhyw un ar goll pan fydd yn ddiogel unwaith eto i ymgynnull gyda theulu, ffrindiau a chymdogion.
“Os nad ydym yn symud, nid yw'r feirws yn symud chwaith, felly yn ogystal â chadw at y cyfyngiadau newydd, gwisgwch fasg lle bo'n briodol, golchwch eich dwylo'n rheolaidd, defnyddiwch hylif diheintio, a chadwch bellter cymdeithasol bob amser.
“Mae staff y Cyngor yn gweithio'n ddi-baid i sicrhau bod pobl yn gallu parhau i dderbyn gwasanaethau hanfodol, ac rydym yn adleoli ein hadnoddau i gefnogi hyn tra'n monitro'r sefyllfa'n ofalus.
“Wrth gwrs, mae risg wirioneddol y bydd yn rhaid i rai gwasanaethau ddod i ben neu gael eu cwtogi, yn enwedig os bydd staff yn parhau i fynd yn sâl neu'n gorfod hunanynysu. Bydd y cyngor yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd wrth i'r sefyllfa barhau, felly cadwch olwg am fwy o newyddion drwy gydol cyfnod yr ŵyl.”
Mae'r canlynol yn nodi rhestr o wasanaethau'r cyngor a threfniadau pandemig.
Y Nadolig
Gall dwy aelwyd ddod at ei gilydd i ffurfio 'swigen' ar Ddydd Nadolig yn unig, ond ni fydd llety gwyliau yn cael agor mwyach. I gael rhagor o fanylion am y trefniadau o amgylch y Nadolig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Aelwydydd
O dan lefel rhybudd pedwar, rhaid i bobl aros gartref (ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn e.e. ar gyfer gwaith neu gasglu presgripsiwn), a rhaid iddynt beidio ag ymweld ag aelwydydd eraill na chwrdd â phobl eraill nad ydynt yn byw gyda nhw. Er bod lefel rhybudd pedwar yn weithredol, bydd aelwyd un person yn gallu ymuno ag un aelwyd arall, a dylai pobl geisio gweithio gartref gymaint â phosibl. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn cynnig mwy o wybodaeth am amgylchiadau pan all pobl adael eu cartref yn ystod y rhybudd.
Ymarfer Corff
Caniateir i breswylwyr adael eu cartrefi i wneud ymarfer corff cyn belled â'i fod yn cael ei wneud ar ei ben ei hun, gydag aelodau o'r un swigen gartref / cymorth, neu gyda gofalwr. Dylai'r ymarfer corff ddechrau a gorffen yn eich cartref, a dylech aros mor agos i'ch cartref â phosibl. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth am ba fath o ymarfer corff a ganiateir.
Busnesau a siopa
O dan y gofynion newydd, mae'n ofynnol i lawer o fathau o fusnesau gau e.e. manwerthu nad yw'n hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos, campfeydd, canolfannau hamdden, busnesau lletygarwch a mwy. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn darparu cwestiynau cyffredin busnes ar ba fathau o safleoedd sy’n cael eu heffeithio, pa fathau all aros ar agor, pa rai all ddarparu opsiynau tecawê a dosbarthu cartref, sut y dylid eu defnyddio a mwy.
Casgliadau ailgylchu a gwastraff
Mae casgliadau'n rhedeg fel arfer ar hyn o bryd. Dros gyfnod yr ŵyl, byddant yn cael eu cynnal ar Noswyl Nadolig a Nos Galan, ond nid ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan na Dydd Calan. Bydd gwastraff sydd i fod i gael ei gasglu ar Ddydd Nadolig (dydd Gwener) yn cael ei gasglu ddydd Sul 27 Rhagfyr, a bydd casgliadau sydd i fod i gael eu casglu ar Ddydd Calan (dydd Gwener) yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Bydd casgliadau'n cael eu cynnal fel arfer ddydd Llun 28 Rhagfyr. Ewch i wefan y cyngor i gael rhagor o wybodaeth.
Canolfannau ailgylchu
Ar hyn o bryd, mae canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar agor ar gyfer defnydd hanfodol yn unig rhwng 9am-4pm. Byddant ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. Oherwydd cyfyngiadau ar faint o bobl sy'n gallu defnyddio'r safleoedd ar unrhyw un adeg, dylid disgwyl rhywfaint o giwio, ac ni fydd staff yn gallu helpu i gario eitemau o gerbydau.
Canolfannau hamdden, campfeydd, pyllau nofio a llyfrgelloedd
Mae'r rhain i gyd ar gau ar hyn o bryd o dan gyfyngiadau lefel rhybudd pedwar.
Ysgolion
Mae ysgolion cynradd ac uwchradd ar gau ar hyn o bryd cyn gwyliau'r Nadolig. Er bod trefniadau ar waith iddynt ailagor yn y Flwyddyn Newydd, mae'r sefyllfa'n cael ei monitro'n ofalus – cadwch olwg am fanylion pellach yn fuan.
Gofal Cymdeithasol
Mae'r cyngor yn adolygu gwasanaethau i blant ac oedolion, ac mae'n adleoli adnoddau i sicrhau y gellir eu blaenoriaethu o dan yr amodau lefel rhybudd pedwar. Mae gwasanaethau a ddarperir fel rhan o'r Hwb Diogelu Amlasiantaethol (MASH), gofal cartref a gwasanaethau preswyl i gyd yn parhau i weithredu, a bydd diweddariadau pellach wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Eglwysi a mannau addoli
Er y gall eglwysi a mannau addoli aros ar agor, cynghorir preswylwyr i osgoi ymgasglu â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Mae rhai arweinwyr ffydd wedi sefydlu trefniadau ar gyfer ffrydio neu ddarlledu seremonïau crefyddol fel dewis amgen mwy diogel. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn cynnig mwy o wybodaeth am eglwysi a mannau addoli.
Amlosgfa Llangrallo
Mae Amlosgfa Llangrallo yn parhau i fod ar agor, er y dylech nodi mai 30 o alarwyr yw’r cyfanswm a ganiateir ar hyn o bryd. Mae tiroedd yr amlosgfa yn parhau i fod ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, 9am-4pm ddydd Gwener a dydd Sadwrn, a 10.30am-4pm ar ddydd Sul a gwyliau banc. Ewch i dudalen Amlosgfa Llangrallo ar wefan y cyngor i gael rhagor o wybodaeth.
Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr
Mae pob apwyntiad yn Swyddog Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i ohirio dros dro oherwydd y cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru – cadwch olwg am ddiweddariadau pellach.
Gofal plant
Gall gwasanaethau a darparwyr gofal plant weithredu, er mai dim ond mewn achosion hanfodol y dylid cynnal unrhyw ofal plant anffurfiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i helpu lleoliadau gofal plant i sicrhau bod eu gwasanaethau'n ddiogel.
Toiledau cyhoeddus
Mae toiledau a gynhelir gan y cyngor yng Ngorsaf Fysiau Pen-y-bont ar Ogwr ar agor ar hyn o bryd ac yn cael eu glanhau bob tro y byddant yn cael eu defnyddio. Mae'r holl gyfleusterau toiled eraill yn y fwrdeistref sirol naill ai'n cael eu rhedeg yn breifat neu drwy gynghorau tref a chymuned.
Trafnidiaeth gyhoeddus a meysydd parcio
Mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael o hyd i gefnogi gweithwyr allweddol i gyrraedd y gwaith a gadael y gwaith, ac mae meysydd parcio a gynhelir gan y cyngor yn parhau i fod ar agor. Fodd bynnag, cadwch at ofynion lefel rhybudd pedwar ar aros gartref lle bynnag y bo modd, a chofiwch wisgo gorchudd wyneb wrth ddefnyddio gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus.
Gwasanaeth Shopmobility
Gyda busnesau nad ydynt yn hanfodol bellach ar gau ac achosion o coronafeirws yn cynyddu, mae'r gwasanaeth Shopmobility ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i atal dros dro tra bod yr amodau lefel rhybudd pedwar ar waith. Bydd y gwasanaeth yn ceisio ailagor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny yn y Flwyddyn Newydd.
Meysydd chwarae a pharciau
Ar hyn o bryd mae meysydd chwarae a pharciau yn parhau i fod ar agor i gefnogi ymarfer corff ac iechyd meddwl a lles plant. Sylwch na fydd pob cyfleuster ar gael, a chofiwch gadw pellter cymdeithasol ac ymarfer hylendid dwylo. Ni ddylid defnyddio parciau a meysydd chwarae at ddibenion cwrdd â phobl o gartrefi eraill.
Gwasanaethau i'r digartref
Mae cymorth i bobl ddigartref yn ystod y pandemig yn parhau i fod ar waith. Mae'r tîm Datrysiadau Tai ar gael i helpu i asesu anghenion tai a chymorth, a chynghori ar yr opsiynau sydd ar gael. Am ragor o fanylion, ffoniwch 01656 643643
Banciau bwyd dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Ewch i dudalen y banc bwyd ar Facebook i gael manylion am sut y gellir cyrchu’r canlynol:
- Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr: 11am-1pm ar 22 a 29 Rhagfyr.
- Banc Bwyd Porthcawl: 10am-12pm ar 22, 24, 29 a 31 Rhagfyr.
- Banc Bwyd Pencoed: 1pm-3pm ar 21 Rhagfyr a 4 Ionawr.
- Banc Bwyd Caerau: 10am-12pm ar 22 a 29 Rhagfyr.
- Banc Bwyd Corneli: 1pm-3pm ar 23 a 31 Rhagfyr.
- Banc Bwyd Pontycymer: 1.30pm-3.30pm ar 23 a 30 Rhagfyr, a 1 Ionawr.
- Banc Bwyd Abercynffig: 10am-12pm ar 24 a 31 Rhagfyr.
Profi, Olrhain, Diogelu
Yn dilyn cynnydd mewn achosion positif o coronafeirws, mae'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn parhau i weithredu er bod niferoedd cynyddol o achosion a chysylltiadau'n cael eu nodi. Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn gweithredu proses brysbennu er mwyn canolbwyntio ar yr ardaloedd sydd â’r risg fwyaf.
Symptomau coronafeirws
Os ydych chi neu unrhyw un yn eich cartref yn datblygu symptomau fel peswch newydd, parhaus, tymheredd uchel neu’n colli neu’n gweld newid yn eich synnwyr o flas neu arogl, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith - gallwch wirio symptomau drwy ddefnyddio gwiriwr symptomau ar-lein y GIG.
Profi am goronafeirws
Os oes angen prawf coronafeirws arnoch, bydd y cyfleuster profi symudol sydd wedi'i leoli ar safle hen ffatri Revlon / Cosi oddi ar Oakwood Drive ym Maesteg (CF34 8TS) a'r cyfleuster profi tymor hwy ym maes parcio Neuadd Bowlio Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH) ar gael i'w ddefnyddio drwy gydol cyfnod yr ŵyl, gan gynnwys Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, gŵyl y banc ar 28 Rhagfyr a Dydd Calan. Rhaid gwneud apwyntiadau ar gyfer y ddau gyfleuster ymlaen llaw drwy ffonio 191 neu fynd i wefan Llywodraeth Cymru.
Canllawiau a chefnogaeth coronafeirws
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth drwy ffonio 119 neu ymweld â'r dudalen coronafeirws ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cysylltu â'r cyngor
Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn y Swyddfeydd Dinesig yn Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd. Gofynnir i breswylwyr ddefnyddio'r cyfleusterau Fy Nghyfrif ac sgwrsio gwe Oggie ar-lein, neu e-bostio talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643.