Diweddariad Covid-19 11 06 20
Poster information
Posted on: Dydd Iau 11 Mehefin 2020
Wrth i'r pandemig coronafeirws Covid-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy'n agored i niwed. Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o'r datblygiadau diweddaraf.
Gwaith yn mynd rhagddo ar gyfer sesiynau dal i fyny
Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gydag ysgolion a chyrff llywodraethu er mwyn gweithredu sesiynau ‘Ailgydio, Dal i Fyny, Paratoi ar gyfer yr Haf a mis Medi’ Llywodraeth Cymru, a fydd yn dechrau ddydd Llun 29 Mehefin. Wedi'u cynllunio er mwyn paratoi disgyblion ar gyfer dychwelyd yn raddol at wersi arferol yn hwyrach ym mis Medi, mae'r gweithdrefnau'n cael eu cytuno ar hyn o bryd a chyn bo hir bydd ysgolion yn dechrau dosbarthu manylion yn uniongyrchol i rieni ar sut y bydd y sesiynau anorfodol hyn yn gweithredu.
Paratoadau ar gyfer ailagor ysgolion
Pan fydd disgyblion yn dechrau dychwelyd i'r ysgol yn raddol o ddydd Llun, 29 Mehefin, byddant yn gweld nifer o newidiadau wedi'u cynllunio i ddiogelu eu hiechyd a'u llesiant parhaus, ac yn cwmpasu meysydd megis cludiant ysgol, cadw pellter cymdeithasol, hylendid a glanhau, prydau bwyd ac egwylion, gofal plant a mwy. Gyda thymor yr haf wedi'i ymestyn ac yn dod i ben ar 27 Gorffennaf, bydd gwyliau hanner tymor yr hydref yn cael eu hymestyn i bythefnos yn hytrach nag un wythnos - ceir mwy o fanylion cyn bo hir.
Parcio ceir
Wrth i ddisgyblion baratoi i fynychu sesiynau dal i fyny mewn ysgolion lleol, bydd trefniadau gorfodi parcio ceir ar y stryd yn cael eu hadfer ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr cyn 29 Mehefin. Mae gyrwyr yn cael eu hatgoffa o bwysigrwydd parcio yn gyfrifol, yn enwedig o amgylch ysgolion, er mwyn osgoi cael cosbau penodedig.
Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr i ailagor yn rhannol
O 15 Mehefin, bydd Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn ailagor yn rhannol er mwyn galluogi busnesau yr ystyrir eu bod yn hanfodol i ddechrau masnachu unwaith yn rhagor. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod mesurau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu cyflwyno, ac y gellir cynnal amgylchedd siopa a gwaith diogel er mwyn cyfyngu ar y posibilrwydd o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.
Gwasanaethau llyfrgelloedd
Yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru, mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a’r cyngor yn datblygu cynlluniau ar gyfer adfer gwasanaethau llyfrgelloedd y fwrdeistref sirol mewn modd diogel. Wrthi’n cael eu datblygu mae cynigion ar gyfer menter i gasglu llyfrau, prosiect llyfrau ar glud, defnydd cynyddol o wasanaethau digidol a mwy – ceir rhagor o fanylion cyn bo hir.
Helpwch i atal ‘llefydd gwag’
Os ydych yn archebu lle mewn hwb gofal plant brys ond nad oes ei angen arnoch mwyach, rhowch wybod i'r cyngor ymlaen llaw fel y gellir ei gynnig i rywun arall. Mae'r hybiau yn cael eu staffio gan wirfoddolwyr, mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae pob un yn costio tua £50 y dydd i'w ddarparu. Ni chynigir cefnogaeth ar gyfer pobl sy'n archebu lle ond nad ydynt yn mynychu.
Cyllid busnes yn cyrraedd £28 miliwn
Gyda 2,256 o geisiadau wedi'u prosesu, mae mwy na £28 miliwn wedi'i ddarparu ar gyfer busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n rhaid i unrhyw fusnes sy'n gymwys nad yw wedi gwneud cais eto, wneud hynny erbyn 30 Mehefin – mae'r cymorth ar gael ar gyfer busnesau sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru ac sy'n meddiannu eiddo â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. Mae hefyd yn cynnwys y rheini sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes ar hyn o bryd, a busnesau manwerthu, hamdden neu letygarwch â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. Mae £240,000 ychwanegol wedi'i ddosbarthu i siopau elusen, eiddo chwaraeon a chanolfannau cymunedol yn y fwrdeistref sirol trwy'r gronfa ar gyfer elusennau bach – ewch i wefan y cyngor am y manylion llawn ynghylch cymhwysedd a sut i wneud cais ar gyfer y cymorth sydd ar gael.
Cyfleoedd gofal cymdeithasol
Mae angen cael hyd i fwy o bobl i helpu i gefnogi trigolion y fwrdeistref sirol sy’n fwyaf agored i niwed. Mae nifer o gyfleoedd cyflogaeth ar gael, a gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn flaenorol neu sy'n meddu ar sgiliau trosglwyddadwy. Mae proses ymgeisio llwybr carlam a chwrs gloywi cyflym ar gael. Cewch ragor o wybodaeth neu gwnewch gais am rolau gofal cymdeithasol ar-lein.
Cysylltu â'r cyngor
Mae'r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Swyddfeydd Dinesig Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dal ar gau i'r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio Fy Nghyfrif ar-lein a defnyddio'r cyfleuster gwe-sgwrs ar ein tudalen gartref trwy glicio ar yr eicon Oggie, neu anfon e-bost at talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643.