Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad Covid-19 10 06 20

Wrth i bandemig y coronafeirws Covid-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy'n agored i niwed. Mae'r wybodaeth ganlynol yn darparu crynodeb o'r datblygiadau diweddaraf.

Cyngor newydd ar fasgiau wyneb

Yn dilyn cyngor newydd gan Sefydliad Iechyd y Byd, gofynnir i bobl yng Nghymru wisgo gorchudd wyneb sydd â thair haen pan maent ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn sefyllfaoedd eraill lle nad yw'n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Er nad yw hyn yn orfodol, mae'r cyngor newydd wedi'i anelu at bobl nad ydynt yn arddangos symptomau o'r coronafeirws. Dylid defnyddio masgiau cotwm yn lle rhai sidan neu neilon, ac ni ddylid eu gwisgo am fwy na phedair awr. Dylai unrhyw un sy'n gwisgo gorchudd olchi ei ddwylo ar ôl ei ddefnyddio, hyd yn oed os am gyfnod byr yn unig a ddefnyddiwyd, a dylid golchi'r masgiau ar ôl eu defnyddio hefyd. Oni bai y gellir golchi'r masg rhwng teithiau, dylai unrhyw un sy'n defnyddio trên neu fws ddwywaith y dydd wisgo masg gwahanol ar gyfer pob taith.

Ystafelloedd dosbarth modiwlar ar ôl y pandemig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi neilltuo £1.2 miliwn ar gyfer darparu ystafelloedd dosbarth modiwlar newydd a fyddai'n galluogi disgyblion yn nosbarth babanod ysgol gynradd i gael eu haddysgu ar y safle. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, cyn y cyfyngiadau symud, roedd disgyblion dosbarth babanod Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn cael eu cludo bod dydd i Ysgol Gynradd Corneli, Ysgol y Ferch o’r Sgêr a'r Ganolfan Integredig i Blant er mwyn cael eu haddysg. Dilynodd hyn ddifrod helaeth a achoswyd gan fethiant pibell ddŵr ac a olygodd nad oedd modd defnyddio llawer o'r safle a ddefnyddir gan ddosbarth y babanod. Yn ddiweddarach, canfu arolwg cyflwr fod gan yr adeilad broblemau pellach, a arweiniodd at y penderfyniad i'w gau. Bydd y cyngor yn gweithio gyda'r contractiwr i ddarparu ystafelloedd dosbarth dros dro newydd ar fyrder.

Cwmni lleol yn cynhyrchu prawf gwrthgyrff

Mae prawf gwrthgyrff a gynhyrchir ym Mhencoed yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y DU er mwyn gweld a yw pobl wedi cael Covid-19. Mae Ortho Clinical Diagnostics yn un o sawl cwmni a wnaeth ymateb i alwad am help gan y Prif Weinidog a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Gan weithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r offer gwrthgyrff yn cefnogi ymdrechion i nodi ymateb imiwnyddol i'r coronafeirws.

Canolfannau ailgylchu cymunedol

Atgoffir trigolion, er nad yw'r system rhifau cerbydau eilrif/odrif yn cael ei defnyddio mewn canolfannau ailgylchu cymunedol bellach, cyfyngir mynediad i safleoedd i geir yn unig, a dim ond ychydig o geir sy'n cael dod ar y safleoedd ar y tro. Rhaid didoli pob eitem a deunydd cyn dod i ganolfan ailgylchu, a dim ond un unigolyn a fydd yn cael gadael y car er mwyn cael gwared ar y gwastraff.

Gwasanaeth gwastraff gardd

Bydd cartrefi sydd am gofrestru â'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn gallu gwneud hynny o 29 Mehefin. Rhoddwyd gorau i'r gwasanaeth yn ystod y cyfyngiadau symud, ond ailddechreuodd yn gynnar ym mis Mai. Gyda chyfyngiad ar nifer y cofrestriadau newydd y gall y gwasanaeth eu derbyn, caiff lleoedd eu cynnig ar sail y cyntaf i'r felin.

Gweithgareddau am ddim gartref

Mae gweithgareddau am ddim, sy'n amrywio o chwarae'r iwcalili ac ysgrifennu storïau i ffotograffiaeth a mwy, yn helpu pobl hŷn i osgoi teimlo'u bod yn gaeth i'w cartrefi yn ystod cyfyngiadau symud y coronafeirws COVID-19. Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhannu rhaglen newydd o'r enw Cryfach Gyda'n Gilydd i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl hŷn tra bo cyfyngiadau symud yn eu lle. Mae'n eu cefnogi a'u hannog i ymgymryd â gweithgaredd newydd neu i rannu diddordeb sydd ganddynt yn barod gydag eraill. Mae llyfrau gwaith a fideos sy'n cyd-fynd â'r gweithgareddau ar gael fel rhan o'r gwasanaeth, a chewch ragor o wybodaeth ar wefan Cryfach Gyda'n Gilydd Pen-y-bont ar Ogwr.

Cael mynediad i fanciau bwyd

Cewch y manylion diweddaraf ynglŷn â pha fanciau bwyd sydd ar agor, a sut i gael mynediad iddynt, yn ystod y pandemig parhaus, trwy fynd i wefan Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr neu wirio'i dudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cymorth ar gyfer pobl hŷn

Mae Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gwasanaeth 'help llaw' am ddim ar gyfer pobl hŷn sy'n hunan-ynysu ac nad ydynt yn gallu casglu bwyd, meddyginiaeth ac eitemau hanfodol eraill.Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Gofal a Thrwsio Cymru.

Cyfleoedd gofal cymdeithasol

Mae angen cael hyd i fwy o bobl i helpu i gefnogi trigolion y fwrdeistref sirol sy’n fwyaf agored i niwed. Mae nifer o gyfleoedd cyflogaeth ar gael, a gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn flaenorol neu sy'n meddu ar sgiliau trosglwyddadwy. Mae proses ymgeisio llwybr carlam a chwrs gloywi cyflym ar gael. Cewch ragor o wybodaeth neu gwnewch gais am rolau gofal cymdeithasol ar-lein.

Cysylltu â'r cyngor

Mae'r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Swyddfeydd Dinesig Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dal ar gau i'r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio Fy Nghyfrif ar-lein a defnyddio'r cyfleuster gwe-sgwrs ar ein tudalen gartref trwy glicio ar yr eicon Oggie, neu anfon e-bost at talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643. 

Chwilio A i Y