Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad Coronafeirws ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd Cymru'n parhau i lacio’n raddol rhai o'r rheolau diogelu sydd mewn grym o hyd yn sgil y pandemig.

O ddydd Llun 28 Mawrth, ni fydd yn ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau manwerthu nac ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond argymhellir eu gwisgo mewn lleoliadau iechyd cyhoeddus.

Bydd yn rhaid gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae'n rhaid i fusnesau barhau i wneud asesiadau risg coronafeirws.

O ran newidiadau eraill a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw, bydd y gofyniad i hunanynysu hefyd yn troi'n gyngor. Bydd y taliad cymorth hunanynysu gwerth £500 ar gael tan fis Mehefin.

Rydym wedi gweld cynydd annymunol mewn achosion coronafeirws yng Nghymru, sy'n cyd-fynd â'r sefyllfa yn y rhan fwyaf o'r DU.

Rydym wedi ystyried yn ofalus y dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf, ac rydym angen cadw ambell i reol diogelu ar waith am ychydig eto, er mwyn cadw Cymru'n ddiogel. Yn ystod y pandemig, rydym wedi dilyn dull graddol a gofalus wrth lacio rheolau diogelu.

Rydym ar y trywydd cywir i allu gadael y cyfnod o ymateb brys i'r pandemig, a dysgu i fyw'n ddiogel gyda choronafeirws.

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford

Mae profion yn parhau i fod ar gael ar gyfer unrhyw un sy'n profi symptomau coronafeirws. Mae canolfan brofi galw heibio ar gael ym maes parcio'r Neuadd Fowlio ar Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH) rhwng 8am-8pm – sylwch fod rhaid gwneud apwyntiad ymlaen llaw .

Gall pobl nad oes ganddynt symptomau o Covid-19 gael prawf llif unffordd drwy gasglu pecyn o fferyllfa leol sy'n cynnig profion, ffonio 119 neu drwy archebu pecyn ar-lein i'w dderbyn drwy'r post yn eich cartref.

Gallwch drefnu apwyntiadau profi drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru neu ffonio 119. Os oes gennych broblemau gyda'ch clyw neu leferydd, ffoniwch 18001119.

Yn y cyfamser, gall y rheiny sy'n gymwys i gael dosiau cyntaf, ail a thrydydd dos neu ddosiau atgyfnerthu brechlyn Covid-19 gerdded i mewn i unrhyw ganolfan frechu gymunedol i gael y dosiau hyn. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae'r ganolfan wedi'i lleoli yn Ravens Court (CF31 4AP) sydd ar agor rhwng 9.30am a 6pm.

Yno, gallwch dderbyn:

Dosiau Cyntaf

  • Unrhyw un sy'n 12 oed neu hŷn

Ail Ddosau

  • 18 oed a hŷn, 8 wythnos ar ôl y dos cyntaf, ond mae hefyd angen bod 28 diwrnod ar ôl bod â haint COVID 19.
  • unigolion 12-17 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, imiwnoataliedig difrifol neu'n byw gyda rhywun sydd yn imiwnoataliedig, 8 wythnos ar ôl y dos cyntaf, ond mae hefyd angen bod 28 diwrnod ar ôl bod â haint COVID 19.
  • unigolion 12-17 oed nad oes ganddynt unrhyw ffactorau risg, 12 wythnos ar ôl y dos cyntaf, ond mae hefyd angen bod 12 wythnos ar ôl bod â haint COVID 19

Trydydd Dos

  • 12 oed a hŷn sy'n imiwnoataliedig difrifol, fydd yn derbyn trydydd dos, 8 wythnos ar ôl y dos cyntaf, ond mae hefyd angen bod 28 diwrnod ar ôl bod â haint COVID 19

Brechlyn Atgyfnerthu

  • 18 oed a hŷn, 13 wythnos ar ôl yr ail ddos, ond mae hefyd angen bod 28 diwrnod ar ôl bod â haint COVID 19.                                                                                         
  • unigolion 12-17 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, imiwnoataliedig difrifol neu'n byw gyda rhywun sydd yn imiwnoataliedig, 13 wythnos ar ôl yr ail ddos, ond mae hefyd angen bod 28 diwrnod ar ôl bod â haint COVID 19.
  • unigolion 16-17 oed nad oes ganddynt unrhyw ffactorau risg, 13 wythnos ar ôl yr ail ddos, ond mae hefyd angen bod 12 wythnos ar ôl bod â haint COVID 19

 Mae rhagor o wybodaeth am glinigau galw i mewn, diwrnodau ac amseroedd agor yn niweddariad brechu wythnosol y bwrdd iechyd a gyhoeddir ar-lein yma:  Diweddariad brechu wythnosol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (nhs.wales)

Chwilio A i Y