Diweddariad ar ysgolion bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr 15 09 20
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 15 Medi 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi diweddariad ar yr ysgolion sydd ag achosion o'r coronafeirws Covid-19.
Yn Ysgol Gynradd Llangynwyd, mae un aelod o staff wedi derbyn prawf positif ar gyfer y coronafeirws. O ganlyniad, mae 19 o ddisgyblion ac 11 o aelodau o staff yn hunanynysu fel mesur rhagofalus.
Yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, mae aelod o staff wedi derbyn prawf positif, gyda 30 o ddisgyblion a phedwar aelod arall o staff yn hunanynysu.
Mae disgybl Blwyddyn Naw yn Ysgol Brynteg wedi derbyn prawf positif, sydd wedi arwain at dros 200 o ddisgyblion a 15 aelod o staff yn hunanynysu.
Yn Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath, mae 178 o ddisgyblion yn hunanynysu ar ôl i ddisgybl Blwyddyn Saith dderbyn prawf positif. Mae aelod o staff hefyd yn hunanynysu yn dilyn prawf positif blaenorol anghysylltiedig.
Yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-Fai, mae disgybl Blwyddyn Pump wedi derbyn prawf positif, gan arwain at 30 o ddisgyblion ac un aelod o staff yn hunanynysu. Mae pob ysgol yr effeithiwyd arni wedi derbyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r disgyblion sy'n hunanynysu yn dal i dderbyn gwersi diolch i fynediad ar-lein, ystafelloedd dosbarth rhithwir a chyfleusterau dysgu cyfunol. Mae'r ysgolion wedi bod yn paratoi ar gyfer dychweliad y disgyblion ers peth amser, ac wedi cymryd camau cyflym ym mhob achos i weithredu ar fyrder yn dilyn cyngor rhagofalus Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae gan bob un o'r ysgolion fesurau llawn ar waith i leihau'r risg, cyfyngu ar gyswllt a chynnal safonau hylendid uchel, a dylai pob disgybl nad effeithiwyd arno barhau i fynychu’r gwersi fel arfer. Gall rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid gefnogi ymdrechion i atal lledaeniad y coronafeirws trwy barhau i fod yn wyliadwrus, a pheidio ag anfon eu plant i'r ysgol os oes ganddynt unrhyw symptomau.
Nid yw'r pandemig wedi dod i ben o bell ffordd, a hoffwn ddiolch i’n disgyblion, staff, rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid am eu dealltwriaeth a chydweithrediad parhaus. Mae hon yn broses barhaus o hyd, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau, gweithdrefnau a chyngor cenedlaethol sy'n dod i’r golwg.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.