Diweddariad ar y rhaglen frechu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 22 Ionawr 2021
Mae'r ffigyrau diweddaraf a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau y bydd mwy na 10,600 o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu brechiad cyntaf yn erbyn coronafeirws erbyn dydd Sul 24 Ionawr.
Gyda bron i 3,700 o breswylwyr wedi'u brechu yn ystod y cam cyntaf, mae'r bwrdd iechyd yn rhagweld y bydd 6,900 o drigolion eraill wedi ei gael erbyn dydd Sul 24 Ionawr, diolch i fwy o frechlynnau yn dod ar gael.
Mae Cwm Llynfi hefyd wedi'i ddewis fel lleoliad cynllun peilot sy'n profi sut y gall meddygfeydd weithio gyda'i gilydd i dderbyn, cyflenwi a chynnal dosau o'r brechlyn a sicrhau'r buddion mwyaf posibl i'r gymuned.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: “Mae newyddion y bydd mwy na 10,600 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn erbyn diwedd yr wythnos yn galonogol iawn, yn enwedig gan fod hyn yn cynnwys rhai o’n preswylwyr mwyaf agored i niwed a staff gofal cymdeithasol hanfodol.
“Nid yw’r ffigwr hwn yn cynnwys staff y bwrdd iechyd a allai fod wedi cael eu brechu hefyd oherwydd eu statws rheng flaen neu eu statws agored i niwed.
“Mae'r rhaglen frechu yn dasg enfawr sy'n cynnwys cartrefi gofal lleol, canolfannau brechu a meddygfeydd, ac mae'n glodwiw gweld sut mae rhai meddygon teulu wedi bod yn defnyddio canolfannau cymunedol lleol a chyfleusterau eraill er mwyn dosbarthu'r brechlyn mor effeithiol â phosibl.
“Mae'r rhaglen frechu yn parhau i dargedu aelodau mwyaf agored i niwed a diamddiffyn y gymuned trwy ddefnyddio grwpiau blaenoriaeth a bennir ledled y DU gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
“Mae’r rhaglen yn canolbwyntio i ddechrau ar bobl sydd dros 80 oed, staff a thrigolion cartrefi gofal lleol, a staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen sydd fwyaf mewn perygl o ddod i gysylltiad â’r feirws.
“Mae pob meddygfa leol wedi cofrestru i gymryd rhan yn y rhaglen frechu, a chysylltir yn uniongyrchol â phobl pan eu tro nhw yw hi i gael eu dos.
“Er mwyn cefnogi’r rhaglen frechu ac atal adnoddau rhag cael eu llethu, arhoswch i rywun gysylltu â chi a pheidiwch â holi am y brechlyn mewn fferyllfeydd a meddygfeydd.
“Cysylltir â phob preswylydd pan eu tro nhw yw hi i gael dos, felly ni ddylai unrhyw un geisio mynd i ganolfan frechu heb apwyntiad.
“Yn anffodus, mae angen i breswylwyr hefyd fod yn ymwybodol o sgamwyr sydd wedi bod yn manteisio ar y sefyllfa i geisio twyllo pobl, yn enwedig yr henoed, i drosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol neu hyd yn oed dalu am frechiadau ffug.
“Mae’r troseddwyr hyn yn curo ar ddrysau ac yn anfon negeseuon testun ac e-byst sy’n edrych yn broffesiynol, felly cofiwch nid yn unig bod y brechlyn am ddim, ni fydd y GIG byth yn gofyn i chi dalu cyn y gallwch ei gael. Ni fydd y cyngor na swyddogion iechyd chwaith yn dod i'ch cartref yn ddirybudd i ofyn am eich manylion banc neu gopïau o ddogfennau personol, fel pasbort.
"Er efallai na welir effeithiau'r brechlyn yn genedlaethol am rai misoedd, mae'r cyngor ar gadw Cymru'n ddiogel yr un fath - cofiwch gadw pellter o ddwy fedr oddi wrth eraill, golchwch eich dwylo'n rheolaidd, a gwisgwch orchudd wyneb lle fo'n ofynnol."
“Mae cyfleusterau profi symudol ar gael ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i unrhyw un sy'n profi symptomau Covid-19, felly defnyddiwch yr adnoddau hyn, parhewch i fod yn wyliadwrus, a helpwch i amddiffyn eich cymuned yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws"
Mae canolfan profi drwy ffenest y car ar gael ar safle'r hen ffatri Revlon/Cosi oddi ar Oakwood Drive ym Maesteg (CF34 8TS) rhwng 9am a 4pm, ac mae cyfleuster profi galw i mewn ar gael ym maes parcio'r Neuadd Fowlio yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr ar Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH) rhwng 8am ac 8pm.
Mae trefnu apwyntiad yn hanfodol yn y ddau gyfleuster, a gallwch ddarganfod mwy a threfnu apwyntiad trwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru neu ffonio 119. Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd drefnu apwyntiad drwy ffonio 18001119.
Sylwch: er mwyn osgoi lledaeniad y feirws, mae'n bwysig eich bod yn mynd yn syth adref ar ôl eich prawf ac yn aros yno am ganlyniad eich prawf.
Mae rhestr o symptomau coronafeirws ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.