Diweddariad ar sut mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymladd yn erbyn Covid-19
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 06 Gorffennaf 2021
Mae'r ystadegau diweddaraf a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau bod bron i 77,000 o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a 245,000 o bobl ledled rhanbarth Cwm Taf bellach wedi cael eu brechu’n llawn yn erbyn Covid-19.
Mae'r cadarnhad yn dilyn y newyddion bod cyfanswm o bron i 180,000 o frechiadau wedi'u rhoi yn lleol mewn canolfannau brechu arbennig a meddygfeydd meddygon teulu.
Yr wythnos hon, mae pobl 18 oed a hŷn nad ydynt wedi derbyn eu brechiad cyntaf eto wedi dechrau defnyddio’r apwyntiadau ‘galw heibio’ newydd.
Mae’r apwyntiadau galw heibio ar gael i oedolion sy’n byw o fewn rhanbarth y bwrdd iechyd ac yn cael eu darparu yn y rhan fwyaf o ganolfannau brechu cymunedol heb fod angen trefnu apwyntiad ymlaen llaw.
Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, maent ar gael yn Ravens Court yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 9:15am-4:30pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn.
Dylai unrhyw un sydd eisiau manteisio ar yr apwyntiadau galw heibio dos cynaf ddod ag ID gyda nhw, fel pasbort, trwydded yrru neu fil cyfleustod i brofi eu cyfeiriad.
Mae trefniadau ar gyfer apwyntiadau ail ddos yn parhau i redeg fel arfer ochr yn ochr â brechiadau galw heibio.
Mae pandemig y coronafeirws ymhell o fod wedi dod i ben, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'n briodol bod Cymru'n mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar ddata tuag at benderfynu pryd y bydd cyfyngiadau'n gallu llacio ymhellach.
Er mwyn diogelu’r bobl fwyaf bregus o’n plith rhag amlygiad posibl i’r coronafeirws, mae’n hollbwysig bod pobl yn derbyn y ddau frechiad.
Mae'r clinigau galw heibio yn cynnig cyfle i unrhyw un sydd wedi gwrthod neu golli eu hapwyntiad cyntaf ddal i fyny, felly helpwch ni i ddiogelu ein cymunedau lleol rhag Covid-19.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Am ragor o wybodaeth ynghylch brechiadau Covid-19, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.