Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad ar gynnydd adnewyddu systemau CCTV

Mae'r gwaith o adnewyddu'r system CCTV ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd rhagddo, a chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yw'r ardal gyntaf fydd yn cael adnewyddu ei systemau.

Er bod oedi wedi bod oherwydd prinder caledwedd diolch i broblem gyda’r gadwyn gyflenwi fyd-eang ar hyn o bryd, bydd y camerâu newydd yn dechrau cael eu gosod yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ddechrau mis Mai, a bwriedir cwblhau’r gwaith yn ardaloedd eraill y fwrdeistref erbyn dechrau mis Medi.

Mae’r holl waith cynllunio ac arolygu ar gyfer gosod y camerâu wedi’i gwblhau, ac mae’r ganolfan fonitro CCTV wedi’i gosod gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys gweithfannau Gweithredwyr, sgriniau monitro a chamerâu. Er mwyn diogelu rhag toriadau pŵer a chynnal gwasanaeth parhaus, mae’r ganolfan fonitro CCTV yn cael ei gosod ar hyn o bryd gyda Chyflenwad Pŵer Di-dor (UPS).

Bydd y gwaith adnewyddu CCTV newydd yn diweddaru’r system gyda thechnoleg newydd ac yn cynnig gwell gwasanaeth ar gyfer trigolion a busnesau Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae cael gafael ar y caledwedd a'r cydrannau angenrheidiol o bob cwr o'r byd wedi bod yn heriol oherwydd problem gyda’r gadwyn gyflenwi fyd-eang, ond rydym yn hyderus y bydd yr holl ymdrech ychwanegol yn talu ar ei chanfed.

Gan fod technoleg yn newid drwy’r amser, mae angen i ni aros ar y blaen gyda’n system CCTV. Bydd y gwaith adnewyddu hwn yn sicrhau diogelwch parhaus trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Martin Morgans, Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth

Chwilio A i Y