Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad ar gau maes parcio aml-lawr

Mae'r gwaith yn dal i fynd rhagddo i bennu pa un ai a fydd maes parcio canol y dref Pen-y-bont ar Ogwr yn ailagor yn rhannol, neu barhau i fod wedi cau.

Nid oedd modd ailagor maes parcio aml-lawr Brackla One, ar ôl y cyfnod clo y cyfyngiadau lefel pedwar diweddar ar ôl canfod problemau iechyd a diogelwch sylweddol.

Yn ystod archwiliad gan swyddogion y cyngor, canfuwyd bod lludded is-arwyneb yn y cyfleuster wedi gwaethygu'n sylweddol ac yn achosi i ddarnau o goncrid gwympo o'r nenfydau.

O ganlyniad mae'r maes parcio, a adeiladwyd yn y 1970au, yn parhau i fod wedi cau dros dro er diogelwch y cyhoedd.

Ar hyn o bryd mae peirianyddion y cyngor yn pennu pa un ai a fydd modd ailagor y maes parcio yn rhannol er mwyn darparu peth gapasiti parcio a gwasanaeth Shopmobility i ganol y dref.

Mae'r maes parcio wedi bod yn dangos arwyddion o ddirywiad parhaus ers peth amser. Er ei fod yn ddiogel yn strwythurol, rydym yn cydnabod ei fod yn cyrraedd diwedd ei fywyd naturiol, yn yr un modd â chyn-faes parcio aml-lawr Rhiw. Fel y cyfryw, mae'r cyngor eisoes wedi cyllidebu cynlluniau sydd mewn lle i ddymchwel y maes parcio, yn ogystal â chynigion newydd uchelgeisiol ar gyfer sut all y rhan hon o'r dref gael ei defnyddio yn y dyfodol o bosibl.

Ynghyd â'r orsaf heddlu gyfagos, mae ardal Cheapside yn ffurfio rhan bwysig o'n strategaeth adfywio ar gyfer canol y dref yn y dyfodol, ac mae cynlluniau ar y gweill a allai ddarparu adeilad Coleg Pen-y-bont ar Ogwr newydd yn y lleoliad hwn, a fyddai wrth gwrs yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref yn sylweddol. Hyd nes y bydd gennym ragor o wybodaeth, rydym yn cadw meddwl agored o ran ailagor y maes parcio, ond os canfyddir nad yw'n ddiogel neu os yw'r atgyweiriadau gofynnol yn rhy ddrud i unrhyw ailagor ddigwydd, byddwn yn ystyried dod â'r dymchwel arfaethedig yn ei flaen.

Ar hyn o bryd, mae ein peirianwyr yn canolbwyntio'n benodol ar edrych a oes modd ailagor y maes parcio yn rhannol, yn enwedig er mwyn i'r gwasanaeth Shopmobility allu ailddechrau. Yn y cyfamser, rydym wedi cadarnhau bod yr holl feysydd parcio eraill yng nghanol y dref dan reolaeth y cyngor a phreifat ar gael i'w defnyddio o hyd, gan gynnwys maes parcio Aml-lawr Rhiw lle cewch y tair awr gyntaf o barcio am ddim, a bod digon o le ynddynt ar gyfer gyrwyr a fyddai fel arall wedi dewis parcio yn Cheapside. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o ddiweddariadau wedi i'n peirianyddion gadarnhau eu canfyddiadau.

Dywedodd Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Cymunedau

Mae'r meysydd parcio dan reolaeth y cyngor yng nghanol y dref wedi'u lleoli yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes parcio aml-lawr Rhiw
  • Brackla Three (y tu ôl i Wilkinsons)
  • Heol Tremaen
  • Heol Five Bells
  • Heol Brewery
  • Heol Tondu
  • Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr
  • Neuadd Fowlio

Gellir dod o hyd i fanylion llawn ynglŷn â meysydd parcio yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr a'r cyffiniau ar wefan y cyngor, www.bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y