Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad ar ganolfan bosib i droseddwyr benywaidd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn diweddariad ar gynigion gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i sefydlu Canolfan Breswyl Gymreig newydd i Ferched yn ne Cymru.

Dau o’r safleoedd arfaethedig y mae’r weinidogaeth yn eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer y ganolfan newydd yw Sunnyside House yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr a Gwesty’r Atlantic ym Mhorthcawl.

Nododd llythyr a ddosbarthwyd yn ddiweddar gan asiantau, sy’n gweithio ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder i breswylwyr sy’n byw ger y safleoedd arfaethedig, bod ceisiadau cynllunio ar fin cael eu cyflwyno, ond mae swyddogion y weinidogaeth bellach wedi cadarnhau bod y cynlluniau hyn wedi newid.

Mewn e-bost a anfonwyd at yr awdurdod, mae cynrychiolydd o’r weinidogaeth wedi cadarnhau na fyddant yn cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer yr un o’r safleoedd nac yn cynnal unrhyw ymgysylltiad tan ar ôl i etholiadau’r Senedd a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu gael eu cynnal ym mis Mai.

Mae’r weinidogaeth wedi nodi eisoes y byddai’r ganolfan, y bwriedir iddi gadw troseddwyr benywaidd o Gymru yn agosach i'w cartref wrth ddarparu cefnogaeth adsefydlu ddwys fel rhan o ddedfryd gymunedol, yn cynnwys llety preswyl a chanolbwynt integredig.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau, os derbynnir cais, y bydd yn cael ei brosesu a’i benderfynu yn briodol ar sail ei rinweddau ei hun, ac yn unol â’r holl weithdrefnau cynlluniau priodol.

Chwilio A i Y