Diweddariad ar frechlynnau i bobl dan 40 oed a menywod beichiog
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 07 Mai 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau diweddariad ar frechlynnau i bobl dan 40 oed yn dilyn newid mewn cyngor gan y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.
Bydd pobl dan 40 oed nad oes ganddynt nodweddion risg clinigol, ac nad ydynt eisoes wedi cael brechiad, yn cael cynnig brechlyn gwahanol i AstraZeneca, fel mesur rhagofalus. Byddant yn derbyn y brechlyn priodol yn ystod eu hapwyntiad.
Nid yw Llywodraeth Cymru'n rhagweld y bydd hyn yn arwain at oedi o ran y rhaglen frechu.
Dylai trigolion sydd wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn AstraZeneca dderbyn ail ddos o'r un brand, waeth beth yw eu hoed, yn unol â chyngor JCVI. Efallai y bydd eithriadau meddygol yn berthnasol i ychydig o bobl.
Mae mwy na 1.2miliwn o bobl wedi cael brechlyn AstraZeneca yng Nghymru ers mis Ionawr, a dim ond ychydig o achosion o'r caelu gwaed prin gyda thrombosytopenia sydd wedi digwydd.
Yn y cyfamser, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bellach yn cynnig brechlynnau coronafeirws i fenywod beichiog, neu fenywod sy'n ceisio bod yn feichiog.
Mae'r cyngor diweddaraf gan y JCVI yn dweud y dylai merched beichiog gael cynnig y brechlyn ar yr un pryd â gweddill y boblogaeth, yn seiliedig ar eu hoedran a'u grŵp risg clinigol.
Fe gynigir brechlynnau Pfizer-BioNTech neu Moderna iddynt, er nad yw brechlyn Moderna yn cael ei ddefnyddio yng Nghwm Taf Morgannwg eto. Mae'r brechlynnau hyn wedi cael eu rhoi i fwy na 90,000 o fenywod beichiog yn barod, heb unrhyw bryderon ynghylch diogelwch.
Atgoffir trigolion nad oes rhaid iddynt wneud y penderfyniad ar eu pen eu hunain, a bydd eu bydwraig neu feddyg yn hapus i drafod y buddion a'r risgiau posib o gael eu brechu, yn seiliedig ar eu sefyllfa bersonol.
Pan gewch eich apwyntiad i gael brechlyn, dylech roi gwybod i'r bwrdd iechyd a ydych chi'n feichiog i sicrhau eich bod chi'n cael y brechlyn iawn.
Hyd yn hyn, mae mwy na 1.8miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn, ac mae 800,000 pellach wedi derbyn ail ddos.
Mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn gweithio gydag asiantaethau eraill i fonitro diogelwch brechlynnau yn barhaus a byddant adolygu'r gwaith hwn yn drylwyr.
Brechlynnau yw'r ffordd orau allan o'r pandemig hwn ac maent yn darparu amddiffyniad cryf yn erbyn Covid-19 - mae'n bwysig bod trigolion yn cael eu brechlynnau pan ddaw'r cyfle.
Mae mwy na 120,500 o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach wedi cael brechlyn, wrth i'r gwaith barhau i frechu oedolion 40-49 oed sydd o fewn grŵp blaenoriaeth 10.
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David
Am ragor o wybodaeth ynghylch brechlynnau Covid-19, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.