Diweddariad ar drefniadau profi symudol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 14 Ionawr 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau'r trefniadau diweddaraf ar gyfer cyfleusterau profi coronafeirws symudol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd cyfleuster profi gyrru drwodd yn parhau i fod ym Maes Parcio Pwll Nofio Ynysawdre, Heol-Yr-Ysgol, Tondu CF32 9ET, hyd at 21 Ionawr. Ei oriau agor yw 9am tan 4pm. Mae trefnu apwyntiad yn hanfodol. I drefnu apwyntiad ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch 119.
Mae'r cyfleuster profi symudol yng Nghanolfan Richard Price yn Llangeinor wedi cau bellach.
Yn hytrach, bydd safle galw heibio newydd yn agor yng nghanolfan gymunedol Awel y Môr, Hutchwns Terrace, Porthcawl, CF36 5TN, ddydd Gwener 15 Ionawr. Nid oes angen trefnu apwyntiad. Bydd ar agor hyd at 21 Ionawr, rhwng 9am a 4pm.
Mae cyfleuster profi tymor hir yn parhau i fod ym maes parcio'r Neuadd Fowlio yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr.
I ddefnyddio'r cyfleuster galw heibio hwn, bydd angen i chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru neu ffonio 119. Os oes gennych broblemau gyda'ch clyw neu leferydd: ffoniwch 18001119. Mae'r safle ar agor rhwng 8am a 8pm, 7 diwrnod yr wythnos.