Diweddariad ar drefniadau profi symudol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Llun 22 Chwefror 2021
Mae preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n arddangos symptomau coronafeirws yn cael eu hannog i ddefnyddio cyfleusterau profi coronafeirws symudol lleol.
Wedi’i ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ar hyn o bryd mae gan y fwrdeistref sirol ddwy uned brofi ar waithcyfleuster symudol gyrru i mewn sydd ar gael ar hyn o bryd rhwng 9yb-4yp ar safle Pwll Nofio Halo yn y Pîl (CF33 6RP), a chyfleuster profi cerdded i mewn sy’n dal i fod ar waith rhwng 8yb-8yh ym maes parcio Bowls Hall ger Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (Cf31 4AH).
Mae trefnu apwyntiad yn hanfodol ar gyfer y ddau gyfleuster hyn a gellir gwneud hyn ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119, tra gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd drefnu apwyntiad trwy ffonio 18001119.
Mae'r rhaglen frechu yn barhaus ac eisoes wedi cynnwys bron i 36,800 o drigolion lleol, ond rydym yn dal i annog unrhyw un sy’n arddangos symptomau coronafeirws - peswch sych parhaus, tymheredd uchel neu newid yn eu synnwyr o flas ac arogl - i drefnu i gael prawf.
Mae’r prawf yn gwbl rhad ac am ddim ac yn cymryd ychydig funudau’n unig i’w gwblhau, felly sicrhewch eich bod yn manteisio ar y cyfleusterau lleol hyn a’n helpu ni wrth i ni frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19. Parhewch i gadw pellter o ddau fetr oddi wrth eraill, golchi eich dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen.
Mae gwiriwr symptomau mewnol ar gael ar wefan NHS 111 Wales felly arhoswch yn effro, a pheidiwch ag ildio o ran gwarchod eich hun rhag y feirws.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David