Diweddariad ar drefniadau profi symudol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 19 Ionawr 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau'r trefniadau diweddaraf ar gyfer cyfleusterau profi coronafeirws symudol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd cyfleuster gyrru drwodd ym Mhwll Nofio Ynysawdre (Heol-yr-Ysgol, Tondu CF32 9ET) yn cau ar ddiwedd dydd Iau 21 Ionawr. Tan hynny, mae ar agor rhwng 9am a 4pm drwy gydol yr wythnos, ac mae’n rhaid trefnu apwyntiad.
Bydd canolfan brofi gyrru drwodd newydd yn agor ar safle hen ffatri Revlon / Cosi ger Oakwood Drive ym Maesteg (CF34 8TS) ar ddydd Gwener, 22 Ionawr. Mae ar agor rhwng 9am a 4pm ac mae’n rhaid trefnu apwyntiad.
Mae cyfleuster profi galw heibio hefyd ar waith ym maes parcio’r Neuadd Fowlio ger Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr (Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4AH). Mae'r cyfleuster ar gael rhwng 8am ac 8pm, saith diwrnod yr wythnos, ac mae’n rhaid trefnu apwyntiad.
I drefnu apwyntiad ar gyfer unrhyw un o’r cyfleusterau hyn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch 119. Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd drefnu apwyntiad drwy ffonio 18001119.
Bydd safle galw heibio yng nghanolfan gymunedol Awel y Môr, Hutchwns Terrace ym Mhorthcawl nawr yn cau ddiwrnod yn gynharach na'r disgwyl, ddiwedd dydd Mercher, 20 Ionawr. Tan hynny mae ar agor rhwng 9am a 4pm. Nid oes angen trefnu apwyntiad.
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: "Dylai pobl gael prawf cyn gynted â phosibl os oes ganddynt unrhyw un o symptomau coronafeirws - peswch parhaus newydd, tymheredd uchel a cholled / newid i'ch ymdeimlad arferol o arogl neu flas.
"Mae'n hanfodol bod pobl yn hunanynysu os oes ganddynt unrhyw symptomau – mae hyn yn golygu, unwaith y byddwch wedi cael prawf, bod yn rhaid ichi fynd adref ar unwaith – peidiwch â defnyddio'r cyfle i fynd i siopa na gwneud unrhyw deithiau eraill.
"Rydym yn dal i weld lefelau uchel o goronafeirws ar draws y fwrdeistref sirol, a gyda rheolau lefel pedwar ar waith ledled Cymru, mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.
"Mae galw mawr am gyfleusterau profi symudol, felly defnyddiwch nhw os ydych chi'n arddangos unrhyw symptomau Covid-19 yn unig, a daliwch ati i gadw at y rheolau sylfaenol sydd wedi'u cynllunio i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.
"Mae hyn yn golygu cadw pellter o ddau fetr oddi wrth eraill, golchi eich dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen."