Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad ar daliad gofalwyr di-dâl

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dechrau'r broses o wneud taliadau untro o £500 i bob gofalwr di-dâl cymwys yn y fwrdeistref sirol.

Mae'r taliad ar gael i ofalwyr di-dâl cymwys yng Nghymru a oedd yn cael Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022.

Agorodd y cynllun ddydd Llun 16 Mai a derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 960 o geisiadau cofrestru ar y diwrnod cyntaf, sy'n cyfateb i 30 y cant o'r holl bobl gymwys.

Derbyniodd 364 o bobl eu taliad cyntaf ddydd Llun 20 Mai a bydd 422 ymhellach yn cael eu taliad ddydd Mercher 25 Mai.

Ar adeg ysgrifennu, roedd y cyngor wedi prosesu dros fil o geisiadau cofrestru yn barod a bydd llawer mwy yn cael eu gwneud yn ystod y dyddiau nesaf.

Cafwyd llawer o adborth cadarnhaol gan y bobl sydd wedi cofrestru hyd yn hyn, yn dweud fod y wefan yn hawdd i'w defnyddio a'r ffurflen yn syml i'w chwblhau. 

Mae’r taliad wedi’i anelu at yr unigolion hynny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac sy’n derbyn Lwfans Gofalwr.

Nid yw unigolion yn gymwys ar gyfer y taliad os:

  • oes ganddynt hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwr ond nad ydynt yn cael y taliad oherwydd eu bod yn cael budd-dal arall ar yr un gyfradd neu gyfradd uwch; neu
  • os ydynt yn cael premiwm gofalwr o fewn budd-dal prawf modd yn unig.

Gall pobl gymwys gofrestru ar gyfer y taliad ar wefanty Cyngor Bwrdeistref.

Mae'n braf gweld bod cymaint o ofalwyr di-dâl eisoes wedi gwneud cais am y taliad.

Mae'r taliad yn cael ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol y mae llawer o ofalwyr di-dâl wedi ei wynebu yn ystod y pandemig, ac i gynorthwyo gyda rhai o’r costau ychwanegol sydd wedi dod i’w rhan.

y Cynghorydd Jane Gebbie, Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

Chwilio A i Y