Diweddariad ar brofi coronafeirws yn symudol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 04 Mawrth 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau'r trefniadau diweddaraf ar gyfer cyfleusterau profi symudol ar gyfer preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd â symptomau coronafeirws.
Bydd cyfleuster profi gyrru drwodd symudol newydd yn agor ddydd Gwener 5 Mawrth yng nghaeau chwarae Betws ar Heol Richard Price (CF32 8SF). Bydd ar gael bob dydd rhwng 9am a 5pm, ac mae’n rhaid trefnu apwyntiad.
Bydd y cyfleuster gyrru drwodd sydd ar gael ar hyn o bryd ym Mhwll Nofio Halo ar Marshfield Avenue yn y Pîl yn cau ddiwedd y dydd heddiw (dydd Iau, 4 Mawrth).
Mae cyfleuster profi galw heibio hefyd ar agor ym maes parcio’r Neuadd Fowlio ger Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr (Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4AH). Mae'r cyfleuster ar gael rhwng 8am ac 8pm, saith diwrnod yr wythnos, ac mae’n rhaid trefnu apwyntiad.
I drefnu apwyntiad ar gyfer unrhyw un o’r cyfleusterau hyn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch 119. Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd drefnu apwyntiad drwy ffonio 18001119.
Mae Covid-19 yn dal i gylchredeg yn ein cymunedau felly mae'n hanfodol bod preswylwyr sy’n datblygu symptomau yn hunanynysu ac yn trefnu i gael prawf. Y prif symptomau yw gwres uchel, peswch newydd, parhaus, neu golli neu newid yn eich synnwyr o arogli neu flasu arferol.
Er bod y rhaglen frechu yn parhau i gael ei chyflwyno ledled y fwrdeistref sirol, bydd yn cymryd peth amser i bawb dderbyn eu dos cyntaf, felly mae'n bwysig bod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Os nad ydych yn teimlo'n dda, ewch i GIG 111 Cymru ar-lein neu cysylltwch â'ch fferyllfa gymunedol leol. Os bydd angen, gallwch hefyd gysylltu â'ch Meddyg Teulu, ond dim ond os ydych yn profi symptomau sy'n peryglu bywyd y dylech ffonio 999 neu ymweld â'r adran frys.
Mae profi cymunedol wedi dechrau yn y fwrdeistref sirol ar gyfer pobl sydd heb symptomau coronafeirws.
Mae'r ganolfan brofi gyntaf, sy’n targedu pobl sy’n byw yng Nghefn Cribwr, Y Pîl, Mynydd Cynffig a Chorneli, ar gael yng Nghlwb Pêl-droed a Rygbi Mynydd Cynffig tan ddydd Mawrth 9 Mawrth.
Nid oes rhaid trefnu apwyntiad ar gyfer y ganolfan galw heibio, sydd ar agor rhwng 9.30am-6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 10am-4pm ar ddydd Sadwrn a Sul.
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen brofi gymunedol, ewch i wefan y cyngor.