Diweddariad ar achosion Covid-19 mewn ysgolion
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 01 Rhagfyr 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhyddhau'r ffigyrau diweddaraf ar nifer y disgyblion a'r staff sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn cadarnhau bod y pandemig yn effeithio ar 28 y cant o'r holl ysgolion yn y fwrdeistref sirol ar hyn o bryd.
Mae cyfanswm o 22 o ddisgyblion a 15 aelod o staff wedi profi'n bositif am Covid-19 gyda 1,763 o ddisgyblion a 62 aelod o staff yn hunanynysu ar hyn o bryd ar draws 17 o ysgolion.
Mae gan bob ysgol ystod lawn o fesurau ar waith i leihau risg, cyfyngu ar gyswllt a chynnal safonau hylendid uchel, a gall disgyblion nad ydynt yn cael eu heffeithio barhau i fynychu gwersi fel arfer.
Dim ond fel mesur rhagofalus y mae'r hunanynysu hyn yn digwydd ac mae'n cyd-fynd â chyngor cenedlaethol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
I ddisgyblion y mae'n ofynnol iddynt hunanynysu, mae ystafelloedd dosbarth rhithwir ar waith ac yn cyfuno technegau dysgu, gan eu galluogi i barhau i gymryd rhan ac elwa o wersi.
Rydym yn annog rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i gefnogi ymdrechion i ymladd lledaeniad coronafeirws drwy barhau i fod yn wyliadwrus, ac atgoffa eu hunain o'r pwysigrwydd i beidio ag anfon plant i'r ysgol os ydynt yn arddangos unrhyw symptomau Covid-19, neu wedi profi'n bositif.
Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, Charles Smith