Diweddariad am foderneiddio ysgolion i'r cabinet
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 21 Gorffennaf 2020
Mae cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno ar gynlluniau ar gyfer sefydlu partneriaeth strategol fel rhan o'r trefniadau ariannu ar gyfer ail don ei raglen moderneiddio ysgolion.
Mae sefydlu partneriaeth o’r fath yn rhan o’r gofynion a ffefrir gan Lywodraeth Cymru wrth gynllunio dyfodol ariannu ysgolion ac mae partneriaethau tebyg yn cael eu mabwysiadu gan awdurdodau lleol eraill yn ogystal â sefydliadau addysg bellach ledled Cymru.
Bydd yn helpu i gyflawni buddsoddiad newydd o fwy na £68 miliwn mewn ysgolion a chyfleusterau addysgol newydd ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y bartneriaeth strategol ar waith am o leiaf deng mlynedd, gydag opsiwn i’w hehangu os oes angen am gyfnod ychwanegol o bum mlynedd.
Fel rhan o'r trefniant, bydd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio, hefyd yn eistedd fel aelod o fwrdd partneriaeth strategol a fydd yn cael ei sefydlu i fonitro a goruchwylio'r bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid a chontractwyr perthnasol.
Sefydlu partneriaeth strategol yw'r trefniant safonol a ffefrir gan Lywodraeth Cymru bellach er mwyn cyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Mae'n ffurfio elfen bwysig wrth alluogi'r cyngor i barhau i gyflawni ei raglen moderneiddio ysgolion ei hun, ac mae'n cynnig amrywiaeth o fanteision fel arbedion maint yn ogystal â'r diogelwch ychwanegol o fod yn gynllun y mae Llywodraeth Cymru'n ei ffafrio.
Gydag astudiaethau dichonoldeb ar waith mewn nifer o leoliadau, rwy'n edrych ymlaen at weld y cyngor yn cyflawni'r rownd nesaf o welliannau addysgol cynlluniedig ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cynghorydd Smith