Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Disgyblion yn cyd-dynnu wrth i waith atgyweirio gael ei wneud yn yr ystafell ddosbarth

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Corneli, Ysgol Y Ferch o’r Sgêr a’r Ganolfan Plant Integredig wedi rhoi help llaw i fabanod Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ar ôl i beipen fyrstio gan adael yr ystafelloedd dosbarth heb wres a’r angen am waith atgyweirio sylweddol.

Mae'r plant yn cynnig lle, yn rhannu adnoddau ac yn sicrhau bod lle ar gael i'r babanod tra bo'r gwaith atgyweirio’n digwydd.

Disgwylir i’r gwaith bara am hyd at dair wythnos, ac mae lefel y gwaith atgyweirio, sy'n cynnwys tynnu lloriau concrit pedair modfedd o drwch i gael mynediad at ddwythellau gwresogi o ganlyniad i’r llifogydd, yn golygu nad yw'n bosibl i'r babanod aros yn yr adeilad wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Gwnaed pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl ar bethau, gan wneud y broses bontio mor llyfn â phosibl a sicrhau y gall clwb brecwast yr ysgol barhau. Mae rhieni'n cael eu hysbysu'n llawn.

Rwy'n ddiolchgar i'r disgyblion a'r athrawon am estyn y fath groeso i'r babanod, a hoffwn ddiolch i rieni a gwarcheidwaid am eu hamynedd a'u cydweithrediad tra bod y gwaith yn mynd rhagddo.

Gyda dim ond adran y babanod yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig wedi’i heffeithio, mae pob ymdrech yn cael ei gwneud i gael ymdeimlad o normalrwydd cyn gynted â phosibl. Cyn gynted ag y bydd y gwaith wedi'i gwblhau a'i bod yn ddiogel gwneud hynny, bydd y disgyblion yn gallu dychwelyd i'w hystafelloedd dosbarth, a bydd y trefniadau arferol yn ailddechrau.

Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Chwilio A i Y